Yr heddlu'n ymchwilio i honiadau fod dwy fenyw wedi eu treisio yng Nghaerfyrddin
Mae Heddlu Dyfed Powys yn ymchwilio i honiadau fod dwy fenyw wedi eu treisio mewn eiddo yng Nghaerfyrddin.
Digwyddodd y troseddu honedig mewn eiddo yn y dref ar benwythnos 12 a 13 Hydref.
Mae dau ddyn 34 a 23 wedi ei harestio a'u rhyddhau ar fechnïaeth amodol tra bod ymchwiliad yr heddlu'n mynd yn ei flaen.
Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Dyfed Powys: "Rydym yn ymchwilio i ddau honiad o dreisio mewn cyfeiriad yng Nghaerfyrddin rhywbryd dros nos ar Hydref 12/13.
"Mae dau ddyn, 34 a 23 oed, wedi cael eu harestio ar amheuaeth o dreisio.
Maen nhw wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth amodol tra bod ymchwiliadau'r heddlu yn parhau."