Newyddion S4C

Dedfrydu ffermwyr o Sir Gâr am gadw anifeiliaid mewn amodau 'brawychus'

llanddowddor

Mae tri o bobl wedi eu dedfrydu am droseddau yn ymwneud â lles anifeiliaid ar fferm yn Sir Gâr. 

Mae Dyfrig Thomas, Eirlys Thomas a Dewi Thomas wedi eu gwahardd rhag cadw anifeiliaid am gyfnod yn dilyn sawl achos o gam-drin anifeiliaid ar Fferm Cildywyll yn Llanddowror. 

Rhwng Chwefror a Medi 2023, roedd 144 o farwolaethau gwartheg wedi eu cofnodi ar y fferm, gyda 32 marwolaeth “ddiesboniad”.

Roedd achosion hefyd o anifeiliaid yn byw ochr yn ochr ag anifeiliaid oedd eisoes wedi marw, gan olygu eu bod ymhlith cyrff anifeiliaid oedd yn pydru. 

Ar 31 Mai 2023 fe ddaeth swyddogion Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) a Heddlu Dyfed Powys o hyd i nifer o gŵn – gan gynnwys un Cocker Spaniel a'i asennau yn gwthio allan o'i ochr – oedd yn byw mewn amodau difrifol o wael. 

Roeddent ymhlith yr anifeiliaid oedd yn byw ochr yn ochr ag anifeiliaid meirw ac roeddynt yn bwydo ar eu cyrff. 

Nid oedd gan yr anifieiliaid gyflenwad o ddŵr yfed chwaith.

Diffyg gofal

Fe fethodd y tri â sicrhau gofal milfeddygol i nifer o’r anifeiliaid, gan gynnwys cŵn bach heb eu brechu ac anifeiliaid oedd yn dioddef o salwch heb ei drin.

Cafodd y tri wybod bod yn rhaid iddyn nhw fynd i'r afael ag anghenion lles eu hanifeiliaid ar unwaith ac fe gafodd rhai moch, cŵn a chŵn bach eu symud o'r safle am resymau lles.

Ond fe ddaeth swyddogion o hyd i ragor o anifeiliaid oedd yn cael eu cam-drin yn ystod ymweliadau pellach, gan gynnwys defaid ag anafiadau heb eu trin wedi ymosodiad gan gi.

'Brawychus'

Wrth siarad yn ystod yr achos llys, dywedodd y Barnwr DJ Layton: “Mae hanes yn dangos, dros y blynyddoedd diwethaf, fod y teulu wedi esgeuluso anifeiliaid, o foch i gŵn i ddefaid.”

Roedd Eirlys Thomas a'i mab Dewi Thomas eisoes wedi eu herlyn ar 24 Chwefror 2023 am achosi i dda byw ddioddef yn ddiangen, tra bod Dyfrig Thomas wedi derbyn rhybudd ffurfiol ar y pryd. 

“Parhaodd y sefyllfa, gyda chŵn yn agored i beryglon a heb welyau addas, hwch heb ddŵr, sef angen sylfaenol, a chŵn a chŵn bach yn bwyta carcasau anifeiliaid, moch yn bwyta carcasau...mae'n frawychus,” ychwanegodd. 

Dedfrydu

Fe gafodd Dewi Thomas orchymyn cymunedol 12 mis gyda 150 awr o waith di-dâl a chafodd ei wahardd rhag cadw da byw am bum mlynedd. 

Derbyniodd Eirlys Thomas orchymyn cymunedol 12 mis a chafodd ei gwahardd rhag cadw anifeiliaid am bum mlynedd, tra bod Dyfrig Thomas wedi derbyn gorchymyn cymunedol am chwe mis a chafodd ei wahardd rhag cadw anifeiliaid am ddwy flynedd. 

Bydd yn rhaid i'r tri dalu cyfanswm o £19,275.10 mewn costau, ac wedi mynd â'r da byw o dan adran 34 o'r Ddeddf Lles Anifeiliaid.

Wrth ymateb, dywedodd y Cynghorydd Aled Vaughan Owen, yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd: “Roedd yr amodau a ddatgelwyd ar Fferm Cildywyll yn wirioneddol frawychus, ac rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod y rhai sy'n gyfrifol yn atebol am hynny. 

“Mae lles anifeiliaid yn brif flaenoriaeth i ni a byddwn yn parhau i weithio i atal dioddefaint a diogelu llesiant da byw ledled Sir Gaerfyrddin.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.