Newyddion S4C

Teyrnged i ddyn fu farw mewn gwrthdrawiad trenau ger Llanbrynmair

Tudor Evans

Roedd dyn a fu farw mewn gwrthdrawiad trenau ger Llanbrynmair yn ddyn “hwylus iawn” oedd yn hoff o deithio, yn ôl cyfaill iddo.

Roedd Tudor Evans, 60, a fu’n dosbarthu darnau ceir clasurol a'n byw yng Nghapel Dewi, Aberystwyth ar y trên a oedd yn teithio rhwng Amwythig ac Aberystwyth. 

Bu farw wedi’r gwrthdrawiad, ond nid o ganlyniad i anafiadau a ddioddefodd yn ystod y gwrthdrawiad, meddai’r gwasanaethau brys.

Cafodd 11 o bobl eraill eu hanafu yn y gwrthdrawiad, gyda phedwar arall wedi eu hanafu'n ddifrifol. Bydd llinell y Cambrian rhwng Machynlleth a'r Amwythig yn parhau ar gau tan o leiaf now Wener, Hydref 25

Dywedodd Iestyn Leyshon, y gwerthwr tai o Aberystwyth, ei fod yn “drist ofnadwy” clywed am beth oedd wedi digwydd i’w gyfaill.

Roedd yn nabod Tudor Evans ers 20 mlynedd, meddai, ond dim ond wedi dod i’w nabod yn iawn yn y pedair blynedd diwethaf wrth reidio beics mynydd gydag o.

Roedd Tudor Evans ar ei ffordd yn ôl o wyliau yn yr Eidal pan fu farw, meddai.

“Mae’n boenus iawn meddwl ei fod e a’i wraig newydd ddechrau teithio ar ôl blynyddoedd o waith a bod y trychineb yma wedi digwydd,” meddai.

“Welwn ni ddim o fe ar ei feic ar yr Elenydd rhagor.”

Image
Gwrthdrawiad tren Llanbrynmair
Roedd Tudor Evans ar ei ffordd yn ôl o wyliau pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad

Ychwanegodd: “Fe fyddwn i gyda fe'r wythnos hon achos roedd e wedi gofyn am gael gweld y camperfan unwaith oedd e’n dod yn ôl o wylie.

“Roedd yn cadw ei hunan at ei hunan ond yn ddyn hwylus iawn unwaith oeddech chi’n dod i’w nabod e.

“Doedd dim angen bod yng nghanol crowd o bobol, roedd e’n gwmni gorau dy hunan gyda fe.

“Dyn hapus iawn i roi ei amser a’i gyngor i chi ac roedd cyngor da ‘da fe.

“Roedd yn ddyn trefnus iawn gyda phopeth yn ei le. Fe fyddai yn golchi ei feic i lawr, prepo, paratoi route a phopeth.”

Roedd y trên arall yn teithio o Fachynlleth i Amwythig. Roedd y ddau drên yn cael eu rhedeg gan Trafinidaeth Cymru. 

Cyhoeddodd Y Gangen Ymchwilio i Ddamweiniau Rheilffordd (RAIB) ei bod hi'n ymddangos fod y gwrthdrawiad wedi digwydd tra roedd y trenau yn teithio ar gyflymder o ryw 15 mya. Mae nhw wedi lansio ymchwiliad.

Bydd llinell y Cambrian rhwng Machynlleth a'r Amwythig yn parhau ar gau tan o leiaf nos Wener, Hydref 25, gyda gwasanaeth bws yn rhedeg yn ei le. Ond fydd 'na ddim effaith ar y gwasanaeth rhwng Pwllheli a Machynlleth/Aberystwyth.

 Mae disgwyl i'r trenau gael eu symud oddi ar y trac yn ystod y dyddiau nesaf.

Olwyn 

Yn ôl yr ymchwilwyr, mae tystiolaeth ger safle'r gwrthdrawiad yn awgrymu y gallai olwynion un o'r trenau o bosibl fod wedi llithro wrth frecio.

Dywedodd Trafnidiaeth Cymru ddydd Mercher fod eu gwasanaethau yn teithio ar gyflymder is ar draws rhannau helaeth o'u rhwydwaith "yn sgil traciau llithrig".

Mae'r teithiau sydd wedi eu heffeithio yn cynnwys y canlynol:

  1. Wrecsam Cyffredinol a Bidston
  2. Abertawe ac Amwythig
  3. Cyffordd Llandudno a Blaenau Ffestiniog
  4. Dinbych-y-pysgod a Doc Penfro
  5. Caergybi a Chyffordd Llandudno
  6. Frodsham a Chaer

Digwyddodd y gwrthdrawiad ar hyd Lein y Cambrian ar drac sengl, yn agos at drac arall lle gall trenau sy’n teithio i gyfeiriadau gwahanol basio ei gilydd.

Mae log mewnol o beth ddigwyddodd yn ystod y gwrthdrawiad yn dangos fod gyrrwr y trên oedd yn teithio i gyfeiriad Aberystwyth wedi adrodd eu bod wedi cyrraedd y man lle'r oedd modd pasio'r trên arall ond "nad oedd modd stopio yn sgil yr amodau".

Fe wnaeth swyddog orchymyn y trên i stopio "ar unwaith" ond nid oedd modd osgoi'r gwrthdrawiad. 

'Sioc'

Roedd Bethan Evans ymhlith y rheiny oedd yn teithio ar un o'r trenau pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad. 

Wrth siarad â rhaglen Newyddion S4C, dywedodd: “Dwi’n credu ‘nes i falle passo mas neu bwrw pen fi pan wnaeth yr impact actually digwydd efo’r trên arall. 

“Dwi’n teimlo’n lwcus wrth gweld beth ‘di digwydd i pobl eraill. 

“Ti’n clywed am ddamwain mewn car a pethau, ti ddim rili yn clywed am damweiniau trên llawer felly oedd e’n bach o sioc i gael profiad fel hyn. 

“Gobeithio byddwn i ddim yn cael profiad fel hwnna eto. 

“Dwi’n credu bydd e’n profiad bydd yn byw mewn meddwl ti am llawer o amser hefyd,” meddai. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.