Dyn a fu farw mewn gwrthdrawiad trenau ger Llanbrynmair wedi ei enwi'n lleol
Mae'r dyn 60 oed a fu farw wedi i ddau drên daro yn erbyn ei gilydd ger Llanbrynmair nos Lun wedi ei enwi'n lleol.
Roedd Tudor Evans yn dod o ardal Aberystwyth.
Roedd Mr Evans yn y trên a oedd yn teithio rhwng Amwythig ac Aberystwyth.
Cafodd 11 o bobl eu hanafu yn y gwrthdrawiad, gyda phedwar arall wedi eu hanafu'n ddifrifol.
Roedd y trên arall yn teithio o Fachynlleth i Amwythig. Roedd y ddau drên yn cael eu rhedeg gan Trafinidaeth Cymru.
Cyhoeddodd Y Gangen Ymchwilio i Ddamweiniau Rheilffordd (RAIB) nos Fawrth ei bod hi'n ymddangos fod y gwrthdrawiad wedi digwydd tra roedd y trenau yn teithio ar gyflymder o ryw 15 mya.
Olwyn
Mae'r uned wedi bod ar safle'r gwrthdrawiad gydol y dydd ac yn cydweithio â'r Heddlu Trafinidaeth a'r cwmnïau rheilffyrdd er mwyn casglu tystiolaeth ac archwilio'r blwch du a fu'n cofnodi'r daith. Bydd tystion hefyd yn cael eu holi, meddai'r RAIB.
Yn ôl yr ymchwilwyr, mae tystiolaeth ger safle'r gwrthdrawiad yn awgrymu y gallai olwynion un o'r trenau o bosibl fod wedi llithro wrth frecio.
Yn ôl yr RAIB, bydd ymchwiliad pellach yn cael ei gynnal.
"Mae ein hymchwiliad yn y camau cyntaf, a bydd diweddariad ar gael yn y dyddiau nesaf, pan fydd tystiolaeth bellach wedi ei chasglu", meddai'r RAIB.
'Sioc'
Roedd Bethan Evans ymhlith y rheiny oedd yn teithio ar un o'r trenau pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad.
Wrth siarad â rhaglen Newyddion S4C, dywedodd: “Dwi’n credu ‘nes i falle passo mas neu bwrw pen fi pan wnaeth yr impact actually digwydd efo’r trên arall.
“Dwi’n teimlo’n lwcus wrth gweld beth ‘di digwydd i pobl eraill.
“Ti’n clywed am ddamwain mewn car a pethau, ti ddim rili yn clywed am damweiniau trên llawer felly oedd e’n bach o sioc i gael profiad fel hyn.
“Gobeithio byddwn i ddim yn cael profiad fel hwnna eto.
“Dwi’n credu bydd e’n profiad bydd yn byw mewn meddwl ti am llawer o amser hefyd,” meddai.