Newid clociau yn ddrwg i batrwm cwsg pobl medd ymchwil
Dylai'r llywodraeth gael gwared â'r arferiad o symud bysedd y cloc ymlaen ac yn ôl ddwywaith y flwyddyn.
Yn ôl ymchwilwyr mae hyn yn cael effaith niweidiol ar batrwm cwsg y boblogaeth.
Daw'r datganiad gan y Gymdeithas Cysgu Brydeinig sef y sefydliad proffesiynol ar gyfer gwyddonwyr a'r byd iechyd.
Eu dadl nhw yw bod y newidiadau rydyn ni yn gweld yn ein cyrff dros gyfnod o 24 awr yn cael eu heffeithio fwyaf gan y clociau yn symud awr ymlaen yn y gwanwyn.
Maent yn "argymell yn gryf" bod Greenwich Mean Time (GMT) - pan mae'r clociau yn mynd yn ôl awr - yn cael ei ddefnyddio trwy'r flwyddyn.
Ym Mhrydain mae clociau yn mynd ymlaen un awr am 1 y bore ar ddydd Sul olaf mis Mawrth ac yn ôl un awr am 2 y bore dydd Sul yma sef Sul olaf mis Hydref.
Dywedodd yr Athro Malcom von Schantz o Brifysgol Northumbria, un o'r academyddion sydd wedi ysgrifennu'r datganiad, y byddai GMT yn "cydfynd yn agos gyda chylch golau dydd a nos". Mae hyn meddai yn "allweddol i gynnal cloc y corff ar gyfer y dydd a nos sydd yn bwysig ar gyfer y cwsg a'r iechyd gorau posib".
Y gred yw nad oes bwriad gan y llywodraeth i newid amser clociau.