Newyddion S4C

Tata: Cynnig grantiau i bobl ffindio gwaith

23/10/2024
Gareth Ness - Tata

Mae pobl yng Nghymru sydd wedi colli eu swyddi yng ngwaith dur Tata ym Mhort Talbot bellach yn gallu cael gafael ar gyllid i’w helpu i ddychwelyd i’r byd gwaith. 

Mae disgwyl i dros 2,000 o swyddi gael eu colli yn ardal Castell-nedd Port Talbot a thu hwnt o achos cau'r ffwrnesi chwyth a newid i ddefnyddio system drydan.

Yn ei anterth yn ystod y 1960au, roedd mwy na 18,000 o bobl yn cael eu cyflogi yno.

Ond mae'r safle wedi mynd trwy sawl cyfnod o newid, sydd wedi arwain at streiciau a chwtogi ar swyddi.

Image
Gwaith dur Tata
Safle gwaith dur Tata

Y gobaith yw y bydd y rhai sydd wedi colli eu swyddi yn gallu defnyddio'r arian i ddysgu sgiliau newydd er mwyn dod o hyd i waith.

Dywedodd Llywodraeth y DU y byddai’r grantiau yn amrywio gan ddibynnu ar anghenion unigolion a'r math o gymorth sydd eu hangen arnyn nhw. 

Bydd y cyllid yn cael ei weinyddu gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot ond fe all unigolion yn unrhyw rhan o Gymru dderbyn cymorth drwy  eu hawdurdod lleol.

Roedd Gareth Ness yn gweithio yn Tata ym Mhort Talbot cyn iddo golli ei swydd o achos y newidiadau yno. 

Roedd wedi cael ei gyflogi yno ers 2008 ac mae’n annog unigolion sy’n wynebu colli ei swydd i geisio am gymorth. 

“Mae'n gyfnod anodd iawn i lawer o bobl ond mae help ar gael,” meddai. 

“Roedd y tîm yn groesawgar ac yn gefnogol iawn, felly does dim angen i neb wynebu hyn ar ei ben ei hun.”

“Roeddwn i'n falch o sylweddoli bod cyfleoedd ar gael y gallwch fynd amdanynt a bod cyllid ar gael i helpu mewn cyfnod sy'n achosi cymaint o straen.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.