Agor cwest i farwolaeth Brianna Ghey 18 mis ers ei llofruddiaeth
Bydd cwest i farwolaeth Brianna Ghey yn dechrau ddydd Mercher, dros flwyddyn a hanner ers i'r ferch 16 oed gael ei thrywanu i farwolaeth mewn parc ger Warrington, Sir Gaer.
Fe wnaeth marwolaeth Brianna, oedd yn ferch drawsryweddol, ennyn ymateb cryf ymysg y gymuned LHDTC+.
Cafodd ffrind Brianna, Scarlett Jenkinson a'i ffrind hi Eddie Ratcliffe eu dyfarnu'n euog o'i llofruddio a'u dedfrydu yn Llys y Goron Manceinion fis Chwefror.
Cafodd Jenkinson a Ratcliffe eu carcharu am oes, am isafswm o 22 ac 20 mlynedd cyn y bydd hawl ganddyn nhw i wneud cais am barôl.
Roedd y ddau'n 16 oed ar y pryd.
Bydd y cwest yn ystyried a ddylai Scarlett Jenkinson fod wedi cael ei symud i Ysgol Uwchradd Birchwood, lle roedd Brianna Ghey yn ddisgybl.
Cafodd ei symud yno o Ysgol Uwchradd Culceth wedi iddi roi canabis i ddisgybl iau yn yr ysgol.
Clywodd yr achos fod Brianna yn ferch ysgol drawsryweddol fregus.
Cafodd ei thrywanu â chyllell hela 28 o weithiau yn ei phen, ei gwddf, ei brest a’i chefn ar ôl cael ei hudo i Barc Linear ym mhentref Culcheth.
Yn ystod yr achos llys, doedd dim modd datgelu enwau Jenkinson a Ratcliffe am resymau cyfreithiol o achos eu hoedran.
Ond wedi iddyn nhw gael eu canfod yn euog o lofruddiaeth, penderfynodd y barnwr y byddai modd i'r cyfryngau a'r wasg gyhoeddi enwau'r ddau yn eu gwrandawiad dedfrydu.