Comisiwn i adolygu llygredd afonydd
Bydd Comisiwn Annibynnol yn cael ei sefydlu ar gyfer y sector dŵr er mwyn mynd i’r afael â biliau dwr a llygredd afonydd.
Yn ôl Llywodraethau Cymru a'r DU dyma'r adolygiad mwyaf yn y sector ers iddo gael ei breifateiddio.
Nod y Comisiwn, medden nhw, yw delio gyda phroblemau hirdymor y diwydiant gan sicrhau bod fframwaith “cadarn” i lanhau’r afonydd, llynnoedd a moroedd.
Maen nhw hefyd yn bwriadu sicrhau gwell buddsoddiad yn y diwydiant gan fynd i’r afael â gordaliadau yn y sector preifat, ac “adfer hyder y cyhoedd” gyda'u biliau dŵr.
Mae Ofwat sef y corff sy'n gyfrifol am reoleiddio'r diwydiant dŵr a charthffosiaeth breifat yng Nghymru a Lloegr yn dweud bod y cwmnïau dŵr wedi gwneud cais i godi biliau dŵr yn uwch unwaith yn rhagor.
Fe allai hynny arwain at gynnydd o 40% erbyn 2030 ym miliau cyfartalog dŵr yng Nghymru a Lloegr – gan godi i £615 y flwyddyn.
Mae disgwyl i Ofwat cyhoeddi ei benderfyniad terfynol o ran codi biliau dŵr ar 19 Rhagfyr.
'Calonogol'
Daw lansiad y Comisiwn Annibynnol wedi i ddeddfwriaeth eisoes gael ei chyflwyno i atal gordaliadau yn y sector dŵr, meddai Adran Amgylchedd Llywodraeth y DU (Defra).
Mae’r ddeddfwriaeth honno yn golygu y gallai swyddogion cwmnïau dŵr gael eu canfod yn euog o drosedd pe bai nhw'n torri'r rheolau.
Dywedodd Prif Weithredwr y grŵp ymgyrchu River Action, James Wallace, ei bod yn “galonogol” i weld y ddwy lywodraeth yn gweithredu.
Ond mae rhai ymgyrchwyr wedi beirniadu’r Comisiwn gan ei fod yn golygu y bydd y sector dŵr yn parhau yn sector preifat.
Yn ôl Matthew Topham o grŵp ymgyrchu We Own It dyw'r adolygiad ddim yn ceisio datrys “gwraidd yr argyfwng” – sef y ffaith bod y sector dŵr yn sector preifat.
Manylion y Comisiwn
Bydd panel o arbenigwyr o'r sectorau rheoleiddio, amgylcheddol, iechyd, peirianneg, cwsmeriaid, buddsoddwyr ac economaidd yn cymryd rhan yn y Comisiwn Annibynnol. Cyn Ddirprwy Lywodraethwr Banc Lloegr, Jon Cunliffe, fydd yn ei gadeirio.
Mae disgwyl i’r Comisiwn gyflwyno eu hargymhellion i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU y flwyddyn nesaf.
Bydd yr argymhellion yn sail i ddeddfwriaeth er mwyn gwella buddsoddiad yn y sector a glanhau’r dyfroedd, meddai’r ddwy lywodraeth.
Dywedodd Huw Irranca-Davies AS, Y Dirprwy Brif Weinidog gyda chyfrifoldeb dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, fod yr adolygiad yn dangos “agwedd newydd” o ran cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.
"Ni allai'r adolygiad hanfodol hwn ddod ar adeg sydd mwy tyngedfennol i'n hamgylchedd dŵr a'n diwydiant dŵr" meddai.
Prif lun - Afon Gwy