Llywodraeth Cymru yn rhoi £19m i Gyfoeth Naturiol Cymru i dalu bil treth
Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi £19m i Gyfoeth Naturiol Cymru i dalu bil treth.
Cyfoeth Naturiol Cymru ydy'r corff mwyaf sy'n cael ei noddi gan Lywodraeth Cymru ac mae ganddo 2,000 o staff.
Mae'n gyfrifol am fynd i'r afael ag argyfyngau hinsawdd, natur a llygredd.
Mae wedi bod yn destun ymchwiliad gan adran Gyllid a Thollau Ei Fawrhydi (CThEF) yn sgil y ffordd y gwnaeth gyflogi contractwyr arbenigol.
Mae'r corff yn parhau i siarad gyda CThEF am y bil terfynol, gyda phosibilrwydd y gallai gynyddu.
Dywedodd Huw Irranca-Davies, Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig y byddai'r Llywodraeth yn "parhau i weithio gyda CNC a darparu'r cymorth angenrheidiol wrth fynd drwy'r broses hon."
Ychwanegodd Mr Davies fod Llywodraeth Cymru wedi "cynyddu ei hymgysylltiad â CNC i olrhain a monitro ei gynnydd wrth ddatrys y mater."
'Brawychus'
Dywedodd Mark Isherwood AS, Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus: "Mae'n frawychus clywed am faint posibl bil treth Cyfoeth Naturiol Cymru a'r taliad o £19m y mae wedi'i wneud i Cyllid a Thollau EF gydag arian Llywodraeth Cymru.
"Ni allai fod wedi digwydd ar adeg waeth o ran cyllid cyhoeddus."
Ychwanegodd Llyr Gruffydd AS, Cadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Seilwaith: "Rydym yn eithriadol o bryderus am ddatganiad Llywodraeth Cymru yn nodi y gallai fod gan Cyfoeth Naturiol Cymru ddyled o £19 miliwn i CThEF.
"Mae hon yn sefyllfa ddifrifol iawn; rwy'n annog pob parti i ddatrys yr anghydfod hwn a sicrhau nad yw trethdalwr Cymru ar eu colled.
"Mae staff Cyfoeth Naturiol Cymru yn darparu gwasanaeth pwysig i bobl Cymru, ac mae'n hanfodol ei fod yn gallu parhau i gyflawni'r gwaith hwn ar yr adeg heriol hon."