Apêl wedi adroddiadau i ddynes a phlant gael eu gorfodi i mewn i gerbyd
Mae'r heddlu'n apelio am wybodaeth, wedi adroddiadau fod dynes oedd â phedwar o blant wedi eu gorfodi i mewn i fan ym Mhont-y-pŵl, Sir Torfaen.
Yn ôl Heddlu Gwent, mae'r digwyddiad yn cael ei drin fel achos amheus.
Yn ôl adroddiadau, cafodd y ddynes a'r plant eu gorfodi i mewn i fan gan ddyn yn ardal Broadway toc ar ôl hanner nos, yn ystod oriau mân fore Mawrth, 22 Hydref.
Parhau mae'r ymchwiliad i geisio dod o hyd i'r fan ac i geisio darganfod yr amgylchiadau, a phwy yw'r bobl oedd yn y cerbyd.
Roedd y fenyw yn ei hugeiniau neu ei thridegau, tua 5'5" o daldra, gyda gwalllt brown wedi ei glymu. Roedd y pedwar o blant rhwng 2 a 7 oed, yn ôl adroddiadau.
Roedd y dyn yn ei ugeinau neu ei dridegau, o faint canolig, ac yn gwisgo crys gwyrdd.
Ford Transit Connect lliw arian yw'r fan gyda bariau du ar y to.
Mae'r heddlu'n apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw ar 101, neu drwy neges breifat ar gyfryngau cymdeithasol gan nodi'r cyferinod 2400349933. Mae modd cysylltu â Crimestoppers hefyd ar 0800 555 111.
Llun Heddlu Gwent