'Brawychus a phryderus': Yr ymateb yn lleol i wrthdrawiad trenau Llanbrynmair
'Brawychus a phryderus': Yr ymateb yn lleol i wrthdrawiad trenau Llanbrynmair
Mae pobl leol yn Llanbrynmair a Talerddig lle wnaeth dau drên daro yn erbyn ei gilydd wedi dweud bod y digwyddiad yn un "brawychus a phryderus".
Mae dyn wedi marw ac 15 o bobl wedi eu hanafu ar ôl i ddau drên daro ei gilydd ger Llanbrynmair, Sir Drefaldwyn nos Lun.
Wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd cynghorydd lleol Llanbrynmair, Ifan Roberts ei fod wedi gweld nifer o oleuadau'r heddlu yn teithio heibio i'w dŷ.
Mae'n byw tua hanner milltir o'r fan lle y gwrthdarodd y trenau, meddai.
"Odda ni wedi gweld cerbydau gyda golau glas yn fflachio, cerdded trwy’r drws i weld pa gyfeiriad odda nhw’n mynd a gweld heddlu yn roi sein tu allan i’r tŷ," meddai.
"Fel o’n i’n mynd draw i holi be' oedd yn mynd ‘mlaen neshi glywed radio fo a rhywun yn deud train incident felly."
Roedd bwriad cau yr A470 rhwng Talerddig a Dolfach o 31 Hydref tan 20 Rhagfyr, ac roedd cynlluniau mewn lle i gludo plant o'r ardal i'w hysgolion ar drenau.
Dywedodd Mr Roberts ei fod yn pryderu am y cynllun hwnnw gan ofni y gallai rywbeth tebyg ddigwydd eto.
"Consyrn mwya' ni ydy ma' nhw pasa cau’r ffordd yn y fan yna am saith wythnos i wneud gwelliannau i’r wal sydd wedi disgyn i’r afn," meddai.
"Y ffordd ma nhw’n pasa cludo plant i’r ysgol ydy ar hyd y tren felly ma isho gwybod beth sydd wedi mynd o’i le, beth sydd wedi digwydd a faint mor saff ydy’r trên i’r plant mynd arno fo felly."
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Powys wrth Newyddion S4C bod trafodaethau yn cael eu cynnal gyda Trafnidiaeth Cymru ar ôl y gwrthdrawiad rhwng y trenau nos Lun.
"Yn dilyn y digwyddiad neithiwr, mae'r cyngor mewn trafodaethau gyda’i ddarparwyr cludiant ysgol a Thrafnidiaeth Cymru ynglŷn â'r trefniadau cludiant ysgol fydd eu hangen tra bod yr A470 ar gau yn Nhalerddig i ailadeiladu wal gynnal.
"Ni fydd unrhyw benderfyniadau ar y trefniadau'n cael eu gwneud nes bod y trafodaethau hynny wedi dod i ben."
'Methu deall'
Gwasanaeth Trafnidiaeth Cymru am 6.31pm o’r Amwythig i Aberystwyth a gwasanaeth Trafnidiaeth Cymru am 7.09pm o Fachynlleth i Amwythig oedd y trenau a darodd ei gilydd, meddai Trafnidiaeth Cymru. Roeddent yn symud ar "gyflymder isel".
Mewn datganiad ar y cyd, dywedodd Network Rail a Thrafnidiaeth Cymru fod y lein ar gau tra bod timau arbenigol yn parhau â’u hymchwiliadau.
Mae'r cynghorydd Roberts yn dweud bod angen ateb brys i ddarganfod beth oedd yn gyfrifol am yr hyn ddigwyddodd.
"Pawb yn methu deall sut bod o wedi digwydd, milltir i fyny’ trac mae’r trên fod stopio fan hon er mwyn gadael i’r tren sydd yn dod ar ei fyny i stopio," meddai.
"Mae’n frawychus i ddeud y gwir. Mae o’n darn o’r rheilffordd sydd yn eitha’ serth a mae trenau yn stryglo i dod i fyny o Dolfach i Dalerddig.
"Be sy wedi digwydd, ‘dan ni’m yn gwbod a ma rhaid i’r ycmwhiliad benderfynu hynny a dod a’r atebion yn eitha cyflym i ni ‘llu."
'Gwellhad buan'
Fe wnaeth yr Heddlu Trafnidiaeth gadarnhau bod dyn wedi marw yn ystod y digwyddiad.
Mae gwasanaeth asiantaeth newyddion PA yn dweud ei bod yn deall mai un o'r teithwyr ar un o'r trenau yw'r dyn sydd wedi marw.
Dywedodd y cynghorydd lleol Elwyn Vaughan ei fod yn meddwl am deulu'r dyn.
"Yn amlwg, 'da ni gyd yn teimlo ac yn gyrru dymuniadau at deulu y person a gollodd ei fywyd," meddai.
"Hefyd wrth gwrs ein dymuniadau gwellhad buan i'r rhai hynny sydd wedi cael anffawd gynta yn yr ysbyty ac angen triniaeth.
"Yn amlwg bydd y ffordd A470 ar gau drwy gydol y dydd ag mae hynny mynd i greu trafferthion lu yn yr ardal arbennig yma.
"Felly dwi'n gofyn i bobl bod yn amyneddgar ac i osgoi'r ardal cymaint â phosib."
Cau'r ffordd 'ddim o help'
Tra bydd rhan o'r A470 ar gau fe fydd y gwaith trwsio yn ymwneud â'r wal sy'n cynnal y ffordd, wedi iddi ddisgyn ym mis Hydref y llynedd.
Pryderu mae'r cynghorydd yn Llanbrynmair, Bryn Jones na fydd cau'r ffordd o gymorth.
"Dwi’m yn gwbo’ be’ sy’ ‘di digwydd ond bydd y ffordd yn cau am saith wythnos wan ddim yn help," meddai wrth Newyddion S4C.
"Yn amlwg 'da ni angan dod i wraidd be' sy' 'di digwydd achos does na'm ffordd haws o deithio ar hyn o bryd.
"O’n i’n poeni am faint o bobl oedd wedi brifo, achos roedd tri neu bedwar helicopter yno, roedd o’n major incident a phobl yn mynd i helpu allan.
"O’dd lot o bobl lleol ddim yn gwybod dim amdano fo, ond wedyn dim yn clywed trên yn pasio mae o’n od."