Newyddion S4C

Dyn wedi marw ar ôl i ddau drên daro yn erbyn ei gilydd ger Llanbrynmair

Gwrthdrawiad

Mae dyn wedi marw ar ôl i ddau drên daro yn erbyn ei gilydd ger Llanbrynmair, Sir Drefaldwyn nos Lun.

Mae gwasanaeth asiantaeth newyddion PA yn dweud ei bod yn deall mai un o'r teithwyr ar un o'r trenau yw'r dyn sydd wedi marw. 

Mae 15 o bobol eraill wedi’u cludo i’r ysbyty ond nid yw eu hanafiadau yn rhai sy’n peryglu bywyd, meddai'r heddlu.

Gwasanaeth Trafnidiaeth Cymru am 6.31pm o’r Amwythig i Aberystwyth a gwasanaeth Trafnidiaeth Cymru am 7.09pm o Fachynlleth i Amwythig oedd y trenau, meddai Trafnidiaeth Cymru. Roeddent yn symud ar gyflymder isel. 

Image
Gwrtgdrawiad Llanbrynmair
Safle'r gwrthdrawiad

Mewn datganiad ar y cyd fore dydd Mawrth dywedodd Trafnidiaeth Cymru a Network Rail bod y gwrthdrawiad "cyflymder isel" wedi digwydd am 19.28.

"Yn anffodus, bu farw un o’r teithwyr, ac mae nifer o bobl eraill yn cael triniaeth am anafiadau mewn ysbytai cyfagos. Mae'n meddyliau gyda theulu ac anwyliaid y dyn sydd wedi colli ei fywyd, yn ogystal â'r holl bobl eraill a fu'n gysylltiedig â'r digwyddiad hwn.

"Bydd rheilffordd y Cambrian i’r dwyrain o Fachynlleth ar gau tra bod timau arbenigol yn parhau â’u hymchwiliadau, ac rydym yn annog teithwyr i beidio â theithio i’r rhan hon o’r rhwydwaith.

"Rydym yn hynod ddiolchgar i’r gwasanaethau brys a ddaeth i’r lleoliad a helpu ein teithwyr a’n staff mewn amgylchiadau heriol. Rydym yn gweithio'n agos gydag asiantaethau eraill, gan gynnwys y gwasanaethau brys, i ddod i wraidd y digwyddiad hwn a byddant yn cael ein cefnogaeth lawn."

Dywedodd Uwch-arolygydd yr Heddlu Trafnidiaeth, Andrew Morgan: “Yn anffodus, gallwn gadarnhau bod dyn wedi marw wedi'r digwyddiad.

“Rydym yn cydymdeimlo’n ddwys â’i deulu a phawb arall sydd wedi cael eu heffeithio. Mae swyddogion arbenigol yn parhau i ddarparu cymorth."

Ychwanegodd fod yr Heddlu Trafnidiaeth yn gweithio law yn llaw gyda'r gwasanaethau brys a’r cwmnïau rheilffyrdd “i ddeall yr amgylchiadau a arweiniodd at y gwrthdrawiad hwn”.

Image
Llanbrynmair
Mae 15 o bobol eraill wedi’u cludo i’r ysbyty ond nid yw eu hanafiadau yn rhai sy’n peryglu bywyd, meddai'r heddlu.

Wrth siarad ar BBC Radio Cymru fore Llun dywedodd un dyn lleol, Ifan Edwards bod yna nifer o swyddogion heddlu yn yr ardal. 

“Oeddan ni’n deud bod 'na rwbath o’i le, gwrando ar y radio plismon yn deud bod ‘na trên incident a ffeindio allan bod dau drên wedi coleidio," meddai.

“A wedyn clywad rhai eraill yn siarad yn dweud bod y trên yn methu stopio yn Talerddig a bod o ‘di sleidio lawr. Mae ‘na gradient reit serth yn ôl be dwi’n deallt, a bod o jyst wedi sleidio a methu stopio."

Cafodd parafeddygon, swyddogion tân ac achub, Heddlu Dyfed Powys ac ambiwlans awyr eu galw.

Image
Hedfanodd ambiwlans awyr yno hefyd gan gyrraedd am 19.54.
Taith ambiwlans awyr i safle'r digwyddiad gan gyrraedd am 19.54 ddydd Llun.


Fe wnaeth Brif Weinidog Cymru, Eluned Morgan ymateb i'r digwyddiad nos Lun gan ddweud: "Mae fy meddyliau gyda phawb a fu'n rhan o'r digwyddiad rheilffordd ym Mhowys yn gynharach heno. 

"Hoffwn ddiolch i'r gwasanaethau brys am eu hymateb ac rwyf wedi gofyn am gael gwybod am unrhyw ddatblygiadau drwy gydol y nos."

'Cwestiynau'

Dywedodd yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth Louise Haigh ei bod hi’n “ddrwg iawn” ganddi glywed am y gwrthdrawiad yng Nghymru.

“Mae’n ddrwg iawn gen i glywed bod un dyn wedi marw ac eraill wedi’u hanafu yn y ddamwain trên ym Mhowys," meddai.

“Mae fy meddyliau gyda phawb sy’n gysylltiedig, a’u teuluoedd.

“Rydw i hefyd am ddiolch i’r gwasanaethau brys a ymatebodd mor gyflym neithiwr ac sydd yn y fan a’r lle o hyd.

“Diogelwch ein rheilffyrdd yw fy mlaenoriaeth ac rydym yn gweithio’n gyflym gyda chwmni Trafnidiaeth Cymru a Network Rail i ddeall beth ddigwyddodd a sut y gallwn ni ei atal yn well wrth symud ymlaen.”

Dywedodd yr Aelod o Senedd Cymru dros Sir Drefaldwyn, Russell George y byddai yna "gwestiynau" am yr hyn ddigwyddodd.

"Rydw i'n meddwl am deulu’r dyn a fu farw mewn modd mor drist, ac am y rhai sydd wedi’u hanafu," meddai.

"Yn amlwg mae yna lawer o gwestiynau ynglŷn â sut y digwyddodd y ddamwain hon, ond am y tro, mae'n bwysig bod yr ymchwilwyr yn cael gwneud eu gwaith."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.