Newyddion S4C

Dau drên yn rhan o wrthdrawiad rhwng Machynlleth a Chaersws

Trafnidiaeth Cymru

Roedd y gwasanaethau brys ymateb nos Lun wedi i ddau drên wrthdaro ger Llanbrynmair, Sir Drefaldwyn.

Gwasanaeth Trafnidiaeth Cymru am 6.31pm o’r Amwythig i Aberystwyth a gwasanaeth Trafnidiaeth Cymru am 7.09pm o Fachynlleth i Amwythig oedd y trenau, meddai Trafnidiaeth Cymru.

Mae Prif Weinidog Cymru, Eluned Morgan wedi ymateb i'r digwyddiad gan ddweud: "Mae fy meddyliau gyda phawb a fu'n rhan o'r digwyddiad rheilffordd ym Mhowys yn gynharach heno. 

"Hoffwn ddiolch i'r gwasanaethau brys am eu hymateb ac rwyf wedi gofyn am gael gwybod am unrhyw ddatblygiadau drwy gydol y nos."

Dywedodd Heddlu Dyfed Powys nos Lun eu bod nhw wedi derbyn galwad am wrthdrawiad "ar gyflymder isel" toc cyn 19.30 a bod y digwyddiad yn mynd yn ei flaen.

Fe wnaeth y llu hefyd gadarnhau fod ffordd yr A470 rhwng Carno a Commins Coch ar gau yn sgil digwyddiad. 

Image
Hedfanodd ambiwlans awyr yno hefyd gan gyrraedd am 19.54.
Taith ambiwlans awyr i safle'r digwyddiad gan gyrraedd am 19.54 ddydd Llun.

Dywedodd Trafnidiaeth Cymru fod gwasanaeth bws yn rhedeg ond nad oedd modd i'r gwasanaeth alw yng Nghaersws. 

Dywedodd llefarydd ar ran yr Heddlu Trafnidiaeth: "Fe gafodd swyddogion eu galw i'r rheilffordd ger Llanbrynmair am 19:20 ddydd Llun i adroddiadau o wrthdrawiad rhwng dau drên.

"Mae'r gwasanaethau ambiwlans, tân ac achub a Heddlu Dyfed Powys yn bresennol ac mae'r digwyddiad yn parhau ar hyn o bryd."

Mewn datganiad ar y cyd dywedodd Network Rail a Thrafnidiaeth Cymru eu bod yn "ymateb i ddigwyddiad ger Llanbrynmair, Powys, yn ymwneud â dau drên".

“Mae’r lein ar gau wrth i'r gwasanaethau brys wneud eu gwaith. Ein prif flaenoriaeth yw diogelwch y teithwyr a’n cydweithwyr, ac rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi’r gwasanaethau brys wrth iddynt ymateb i’r digwyddiad," medden nhw.

Dywedodd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru eu bod nhw wedi eu galw i'r digwyddiad ger Llanbrynmair am 19.34.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.