Newyddion S4C

Apêl i adnabod corff a gafodd ei ddarganfod mewn cronfa ddŵr ym Mhowys

cronfa ddwr claerwen.png

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn apelio am wybodaeth i adnabod corff a gafodd ei ddarganfod mewn cronfa ddŵr ym Mhowys.

Aeth swyddogion i Gronfa Ddŵr Claerwen ar ôl derbyn galwad gan berson oedd wedi gweld corff yn y dŵr ychydig cyn 08:30 ddydd Gwener.

Mae'r llu yn apelio am gymorth i adnabod corff y person oedd yn gwisgo siwt nofio, a'r gred yw mai dyn sydd wedi ei ddarganfod.

Mae ymholiadau cychwynnol, gan gynnwys gwirio cofnodion pobl ar goll gyda lluoedd heddlu cyfagos, wedi methu ag adnabod y corff hyd yma. 

Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu: "Os y gwnaethoch chi ymweld â Chronfa Ddŵr Claerwen neu'r ardal gyfagos o fewn y chwech i wyth wythnos ddiwethaf a sylwi ar unrhyw eiddo personol heb oruchwyliaeth, gan gynnwys bagiau, dillad, esgidiau neu unrhyw beth amlwg arall, cysylltwch â ni. 

"Hoffem glywed a welsoch chi unrhyw beth a ddaliodd eich sylw neu os y gwnaethoch chi gael gwared â rhywbeth o'r ardal."

Mae'r llu hefyd yn awyddus i glywed gan unrhyw un sy'n meddwl efallai eu bod yn adnabod y person sydd wedi cael ei ddarganfod. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.