Ymosodiad Llanrhymni: Arestio dyn mewn maes awyr
Mae dyn wedi cael ei arestio mewn maes awyr yn dilyn golygfeydd treisgar ar ôl gêm bêl-droed yng Nghaerdydd.
Cafodd dau ddyn arall eu cyhuddo yn flaenorol, wedi ymosodiad honedig y tu allan i Ganolfan Hamdden y Dwyrain yn Llanrhymni yn gynharach y mis hwn.
Bu'n rhaid i un o'r dynion a gafodd eu hanafu, Joel Collins, 32, gael llawdriniaeth i'w ben-glin wedi'r digwyddiad.
Roedd tîm Mr Collins Avenue Hotspur FC – o ardal Trelái yng Nghaerdydd – newydd golli 3-1 yn erbyn Llanrumney Athletic yn y ganolfan hamdden cyn i'r gwrthdaro honedig ddechrau.
Dywedodd tystion wrth y BBC fod grŵp wedi ymosod ar rai o chwaraewyr Avenue Hotspur wrth iddyn nhw adael yr ystafell newid, gan ddefnyddio amrywiol arfau yn cynnwys bat pêl-fas.
Mae dyn 19 oed yn dal i fod yn y ddalfa wrth i'r ymchwiliad barhau.
Mae dau ddyn - Benjamin Dean, 28, o Trowbridge, a Ryan Rees, 22, o Lanrhymni – wedi eu cyhuddo mewn cysylltiad â'r digwyddiad.
Mae'r ddau wedi eu cadw yn y ddalfa, ar ôl iddyn nhw ymddangos yn Llys Ynadon Caerdydd ar 16 Hydref.
Llun: Google