Y Deyrnas Unedig i fenthyg £2 biliwn ychwanegol i Wcráin
Mae'r Canghellor wedi cyhoeddi y bydd y Deyrnas Unedig yn benthyg £2.26 biliwn yn ychwanegol i Wcráin.
Mae'r arian yn cael ei roi yn ôl y Canghellor Rachel Reeves er mwyn i'r wlad brynu offer milwrol hanfodol i amddiffyn ei hun yn erbyn ymosodiadau gan Rwsia.
Daw'r cyllid ychwanegol ar ben cymorth milwrol presennol y DU o £3 biliwn i Wcráin yn flynyddol.
Mae'r DU wedi anfon o gwmpas 400 o wahanol wasanaethau i Wcráin.
Yn ddiweddar fe wnaeth yr Ysgrifennydd Amddiffyn John Healey gyhoeddi y bydd y wlad yn darparu 650 o systemau taflegrau penodol i gryfhau gallu Wcráin i amddiffyn ei hun yn yr awyr.
Dywedodd y Canghellor Rachel Reeves: "Mae ein cefnogaeth ni i Wcráin a'i phobl yn eu brwydr nhw am ryddid rhag ymosodiad Putin yn parhau ac fe fyddwn ni'n gwneud hyn cyhyd â sydd angen.
"Mae'r arian newydd o fudd i Brydain oherwydd mae rheng flaen ein hamddiffyniad - sef amddiffyn ein democratiaeth a'n gwerthoedd - yn ffosydd Wcráin. Mae Wcráin sy'n ddiogel yn golygu bod y Deyrnas Unedig yn ddiogel."