Newyddion S4C

Jess Fishlock: 'Teimlo bod rhaid gadael Cymru i chwarae pêl-droed'

Jess Fishlock

Mae prif sgoriwr Cymru Jess Fishlock wedi dweud mewn rhaglen newydd iddi deimlo nad oedd ganddi ddewis ond gadael Cymru er mwyn dilyn ei breuddwydion o chwarae pêl-droed. 

Fe fydd rhaglen deledu Yr Hawl i Chwarae ar S4C yn adrodd sut y cafodd menywod Cymru eu gwahardd rhag chwarae pêl-droed am dros hanner canrif.

Bydd rhai o ffigyrau amlycaf y gêm yn trafod eu profiadau yn ystod y rhaglen yn ogystal â'n trafod yr ymdrech i lobïo'r Gymdeithas Bêl-droed am newid, gan gynnwys Michelle Adams, Karen Jones a Dirprwy Gadeirydd Pwyllgor Pêl-droed Merched UEFA, Yr Athro Laura McAllister.

Fe gafodd y gwaharddiad effaith mawr ar y gêm i fenywod yng Nghymru.

Mae un o sêr mwyaf tîm Cymru, Jess Fishlock, yn dweud yn y rhaglen iddi deimlo bod rhaid symud o Gymru i ddilyn ei breuddwydion o chwarae pêl-droed. 

"Nes i syrthio mewn cariad â’r gêm gan obeithio ar ryw adeg y byddai yna gynghrair neu dîm y gallwn i chwarae ynddo – ond y gwir oedd bod rhaid i mi adael oherwydd doedd dim byd yng Nghymru a fyddai wedi caniatáu i mi gael yr hyn ges i ar ôl gadael."

Fishlock ydy'r chwaraewr cyntaf yn hanes Cymru i ennill 150 o gapiau ac mae hi wedi torri'r record am y niferoedd o goliau i Gymru. 

'Parhau i ymladd'

Ond mae'n credu ei bod yn bwysig iawn adrodd a chofio am hanes pêl-droed menywod Cymru. 

"Dwi'n teimlo ein bod ni wedi cymryd gymaint o gamau ymlaen ond hefyd i ryw raddau dwi'n teimlo ein bod ni'n mynd yn ein holau. 

"Mae'n rhaid deall yr hanes oherwydd mae'n helpu chi i ddeall pam mae rhai pethau fel y maen nhw...mae'n rhaid i ni barhau i ymladd. Dwi'n teimlo fel fy mod i wedi dweud hynny trwy gydol fy ngyrfa gyda Cymru," meddai. 

"Dwi wedi chwarae i Gymru ers dros 15 mlynedd a dal i frwydro am y newid."

'Llawn haeddu'

Mae'r rhaglen yn ymestyn dros ddegawdau, o’r gwaharddiad hanner canrif hyd at y tîm cenedlaethol yn dod yn rhan swyddogol o Gymdeithas Bêl-droed Cymru ym 1992 yn ogystal â llwyddiant y blynyddoedd diweddar.  

Daeth Cymru yn agos at gyrraedd cystadleuaeth Cwpan y Byd yn 2022, gyda 15,000 o gefnogwyr yn bresennol yn y stadiwm i wylio'r gêm yn erbyn Bosnia.

Un o uchafbwyntiau'r rhaglen ydy cyflwyno capiau swyddogol i fenywod a chwaraeodd dros Gymru rhwng 1973 ac 1992.

Yn ystod y cyfnod yma, fe chwaraeodd 94 o fenywod dros Gymru, ond ni chafodd yr un ohonynt gap am nad oedd y tîm o dan enw Cymdeithas Bêl-droed Cymru.

Dywedodd y sylwebydd a’r cyn-chwaraewr Gwennan Harries: "Roedd rhwystrau pan o'n i’n chwarae ond ddim hanner gymaint o gymharu gyda rhain felly mae’n hyfryd i weld nhw’n cael eu dathlu ond cael y cydnabyddiaeth hynny maen nhw’n llawn haeddu."

Bydd 'Yr Hawl i Chwarae' yn cael ei darlledu ar S4C nos Fawrth am 21:00.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.