Newyddion S4C

Gwrthod cais i droi tafarn wledig yng Ngwynedd yn llety gwyliau

Gwrthod cais i droi tafarn wledig yng Ngwynedd yn llety gwyliau

Mae cais gan ddatblygwr i newid rhan o dafarn wledig yng Ngwynedd yn llety gwyliau wedi ei wrthod.

Bwriad Sylfaen Associates Ltd oedd newid defnydd llawr gwaelod y Vaynol Arms ym mhentref Pentir o dafarn i lety gwyliau ar osod.

Roedd y cais wedi ei wrthod yn flaenorol ym mis Ionawr y llynedd, ac fe gafodd y cais terfynol ei wrthod o 14 pleidlais i ddim gan aelodau pwyllgor cynllunio Cyngor Gwynedd ddydd Llun.

Roedd ymgyrch ar droed yn lleol i brynu'r dafarn fel budd cymunedol ers cryn amser.

Mae drysau'r dafarn wedi bod ar gau ers 2021, ac roedd swyddogion cynllunio'r cyngor wedi argymell y dylai'r cais gael ei wrthod.

Wrth siarad yn y cyfarfod, dywedodd yr aelod lleol, y Cynghorydd Dafydd Meurig, wrth yr aelodau mai "beth sydd o'ch blaen yw colli cyfleuster cymunedol."

Ychwanegodd bod dyfodol i adeiladau o'r math yma pan maent yn cael eu mabwysiadu gan eu cymunedau. 

Fe ddisgrifiodd lwyddiant tafarndai'r Fic yn Llithfaen, y Plu yn Llanystumdwy a thafarn Ty'n Llan yn Llandwrog fel rhai oedd yn dyst i hyn.

Siaradodd un o'r pentrefwyr lleol, Cefin Roberts, yn erbyn y datblygiad hefyd, gan ddweud ei bod wedi bod yn dafarn boblogaidd a ffyniannus ar un cyfnod.

"Mae'r bêl dal yng nghwrt y perchennog ar hyn o bryd - yr oll mae o wedi neud ar hyn o bryd ydy colli'r apêl yma am gais i newid defnydd. 'Dan ni fel cymuned yn awyddus iawn i brynu'r dafarn petai'n dwad ar y farchnad ond os oes yna unrhyw un isio ei rhedeg hi fel tafarn, mi fasa hi'n cael croeso mawr ym Mhentir," meddai.

"Aros rwan 'dan ni i weld os fydd 'na apêl pellach ynglyn â'r cais ac os na fydd ac y bydd o'n dod ar y farchnad, yna mi fyddan ni'n llawenhau ym Mhentir."

'Lle da iawn fel cymuned'

Ychwanegodd Mr Roberts: "Mae hi wedi bod yn dafarn boblogaidd erioed. Dwi'n meddwl ar hyn o bryd i rentu yr adeilad, mi fydda fo wedi bod yn anodd iawn achos ma'r arian ma'r perchennog yn ofyn yn swm rhy fawr o lawer.

"Fel pwyllgor gweithredu, 'dan ni'n barod wedi cyfarfod yn gyson drwy misoedd y gaeaf diwethaf a'r haf yn trio meddwl am gynllun busnes i gynnig am y dafarn petai hi'n dwad ar y farchnad.

"'Dan ni mewn lle da iawn fel cymuned, 'dan ni ddim yn cychwyn o'r cychwyn, ma' 'na waith blynyddoedd wedi mynd tu ôl i hyn yn rhag-gynllunio i'r eiliad yma ddigwydd gan obeithio y bydd yr eiddo rwan yn dod ar y farchnad."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.