Gwrthod cais cynllunio dadleuol am 18 o dai ym Motwnnog
Gwrthod cais cynllunio dadleuol am 18 o dai ym Motwnnog
Mae cais cynllunio dadleuol i adeiladu 18 o dai ar dir ym mhentref Botwnnog ym Mhen Llŷn wedi cael ei wrthod gan bwyllgor cynllunio Cyngor Gwynedd.
Fe gafodd y cais fyddai'n gymysgedd o dai rhent a thai cymdeithasol ei wrthod yn wreiddiol gan aelodau'r pwyllgor ym mis Medi, yn groes i argymhellion swyddogion cynllunio'r cyngor.
Gan fod y penderfyniad hwnnw yn groes i'r argymhelliad statudol, cafodd y cais ei osod mewn cyfnod o 'gnoi cil', cyn dychwelyd o flaen aelodau am benderfyniad terfynol ddydd Llun.
Roedd swyddogion cynllunio Cyngor Gwynedd wedi awgrymu wrth aelodau'r pwyllgor cynllunio y dylai'r cais gael ei ganiatáu yn wreiddiol, ac y byddai ei wrthod o bosib yn gallu arwain at apêl a phroses gyfreithiol gostus i'r cyngor.
Dadl y swyddogion oedd bod yr egwyddor am yr angen am gartrefi wedi ei sefydlu'n flaenorol.
Cafodd y safle ei glustnodi yn wreiddiol ar gyfer 21 o dai, a gan fod y cais cynllunio ar gyfer llai na hynny ar y safle, nid oedd yn cael ei ystyried fel gor-ddatblygiad, meddai'r swyddogion.
Dadleuodd y Cynghorydd Gruffydd Williams fod nifer o bolisïau ieithyddol amlwg angen eu dilyn wrth ddod i benderfyniad, a bod apêl ar ddatblygiad yng Ngwalchmai ar Ynys Môn wedi amlygu pwysigrwydd yr iaith Gymraeg mewn penderfyniadau cynllunio o'r fath.
Roedd wedi cynnig y dylai'r cais gael ei wrthod yn y cyfarfod - ac fe bleidleisiodd saith o aelodau'r pwyllgor o blaid ei wrthod gyda chwe aelod yn pleidleisio yn erbyn ei gynnig.
Dywedodd y Cynghorydd Louise Hughes bod y datblygiad ar dir cymharol fach, ac fe allai gael ei ystyried fel gor-ddatblygiad.
Ychwanegodd ei bod yn "hollol amlwg" fod dyletswydd ar y cyngor i amddiffyn yn iaith yn y pentref.
Siaradwyr Cymraeg
Dadleuodd y Cynghorydd Anne Lloyd-Jones o blaid y datblygiad gan nad oedd tystiolaeth meddai i awgrymu na fyddai siaradwyr Cymraeg yn symud i fyw i'r tai.
Ychwanegodd bod y datblygiad yn rhan o strategaeth dai y cyngor ac felly roedd dyletswydd ar y pwyllgor i'w gefnogi.
Fe wnaeth y swyddog cynllunio Keira Ann Sweenie atgoffa aelodau am yr angen i ddefnyddio gwybodaeth gyfredol pan yn edrych ar dystiolaeth am angen tai fforddiadwy yn lleol.
Ychwanegodd Gareth Jones o'r adran gynllunio bod y dystiolaeth yn dangos yn glir bod angen yn bodoli am dai fforddiadwy yng Ngwynedd.
Lleol
Yn y cyfarfod cynllunio ym mis Medi roedd cryn drafod am y diffiniad o gymuned leol - gan fod 'lleol' yn berthnasol i Wynedd gyfan wrth ystyried y galw am dai.
Roedd aelodau oedd yn gwrthwynebu'r cais yn dadlau y dylid diffinio "lleol" fel ardal oedd yn berthnasol i Fotwnnog yn unig.
Roedd Cyngor Cymuned Botwnnog wedi gwrthwynebu'r cais i adeiladu'r datblygiad ger tir Cae Capel yn y pentref yn gryf. Roeddent yn dadlau nad oedd galw amdano'n lleol, ac y byddai'n effeithio ar "sefydlogrwydd y gymuned."
Roedd aelodau'r cyngor cymuned wedi penderynu mynegi diffyg hyder yn y pwyllgor cynllunio cyn y bleidlais ddydd Llun, ar y sail eu bod heb "ystyried pryderon y trigolion lleol a'r ardal ehangach."