Apêl heddlu wedi i ddyn ifanc ddioddef anafiadau all newid ei fywyd yn Sir Benfro
Mae'r heddlu'n apelio am wybodaeth wedi i ddyn ifanc ddioddef anafiadau all newid ei fywyd mewn ymosodiad yn Sir Benfro.
Cafodd Heddlu Dyfed-Powys eu galw i ymateb i "ymosodiad difrifol" yn Sgwâr y Farchnad yn Abergwaun tua 02.50 bore dydd Sul.
Dywedodd yr heddlu fod dyn 20 oed yn cael triniaeth yn yr ysbyty ar ôl dioddef anafiadau i'w ben.
Y gred yw y gallai ei anafiadau newid ei fywyd.
Mae'r heddlu'n awyddus i siarad ag unrhyw un a welodd y digwyddiad.
"Byddwn yn hoffi siarad yn benodol gyda'r person yn y llun, a allai fod â gwybodaeth i helpu'r ymchwiliad," meddai llefarydd.
"Os mai chi yw’r person yn y llun, neu’n gwybod pwy ydyn nhw, cysylltwch â ni gan ddyfynnu'r cyfeirnod 42 o 20 Hydref, 2024."