Milwr wedi ei ladd mewn digwyddiad ym Mannau Brycheiniog
20/10/2024
Mae milwr wedi ei ladd mewn "digwyddiad anweithredol" ym Mannau Brycheiniog, yn ôl y Weinyddiaeth Amddiffyn.
Bu farw Corporal Christopher Gill, aelod o 4ydd Bataliwn, Catrawd y Marchfilwyr, ddydd Mercher.
Wrth roi teyrnged iddo, dywedodd llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Amddiffyn bod eu "meddyliau gyda’i deulu a’i ffrindiau yn y cyfnod trist hwn".
"Mae marwolaeth Corporal Gill yn ergyd yr ydym yn ei deimlo’n arw. Mae ei deulu wedi colli tad, gŵr a mab llawn cariad," meddai'r llefarydd.
"Fe fydd ei ffrindiau a chyd-farchfilwyr yn methu arweinydd hoffus ac uchel ei barch. Mae’r fyddin wedi colli milwr proffesiynol a galluog."