Jeremy Clarkson yn cael llawdriniaeth ar y galon ar ôl 'dirywiad sydyn' yn ei iechyd
Mae Jeremy Clarkson wedi dweud iddo gael llawdriniaeth ar y galon yn dilyn “dirywiad sydyn” yn ei iechyd.
Dywedodd cyn-gyflwynydd y rhaglen Top Gear ei fod wedi dechrau teimlo'n sâl wrth nofio ar ei wyliau, gan yna ei chael yn anodd dringo'r grisiau.
Wrth ysgrifennu yn ei golofn yn The Sunday Times, dywedodd y gŵr 64 oed sy'n ffermio yn y Cotswolds bod ei symptomau wedi gwaethygu ar ôl dychwelyd adref, gan brofi "tyndra yn fy mrest" a "phinnau a nodwyddau yn fy mraich chwith".
Dywedodd ei fod wedi mynd i weld ei feddyg ar ôl clywed am farwolaeth sydyn Alex Salmond y penwythnos diwethaf.
Fe gafodd Clarkson ei anfon i'r ysbyty mewn ambiwlans, ond roedd profion yn diystyru trawiad ar y galon.
Roedd meddygon yn credu ei fod o bosib "ddiwrnodau i ffwrdd" rhag mynd yn sâl iawn, meddai.
"Mae’n ymddangos o’r rhydwelïau (artreries) sy’n bwydo fy nghalon â gwaed, roedd un wedi’i rwystro’n llwyr ac roedd yr ail o dri yn mynd y ffordd honno," meddai.
Cafodd stent - dyfais fach iawn sy'n cael ei defnyddio i gadw rhydweli ar agor - ei osod mewn tua dwy awr.
Ychwanegodd Clarkson fod y profiad wedi ei adael yn meddwl "argol, roedd hynny'n agos".
Awgrymodd ei fod yn edrych i symud i ddiet iachach a'i fod yn "rhyfeddu beth yw blas dŵr ac a yw'n bosibl gwneud seleri yn ddiddorol".
Fe wnaeth Clarkson ffilmio ei bennod olaf o'r Grand Tour fis diwethaf, ond mae'n parhau i gyflwyno Clarkson's Farm a Who Wants To Be A Millionaire?
Yn ddiweddar fe agorodd dafarn o’r enw The Farmer’s Dog, ger ei gartref yn Chipping Norton.