Sir Benfro: Arestio dau wedi i yrrwr tacsi gael ei drywanu gyda nodwydd
20/10/2024
Mae dau berson wedi'u harestio wedi i yrrwr tacsi gael ei ymosod arno gyda nodwydd mewn tref yn Sir Benfro.
Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys eu bod wedi cael galwad i ymateb i ladrad honedig yn Aberdaugleddau toc wedi 19.30 nos Wener.
Cafodd gyrrwr tacsi ei fygwth â chyllell a'i drywanu gyda nodwydd, yn ôl y llu.
Cafodd y dyn ei gludo i'r ysbyty am driniaeth yn dilyn y digwyddiad.
Mae dyn 23 oed a dynes 35 oed wedi'u harestio ar amheuaeth o ladrata, ac yn parhau yn y ddalfa.
Mae'r heddlu wedi dweud y bydd yna "bresenoldeb cynyddol o swyddogion yn yr ardal" wrth iddyn nhw barhau i ymchwilio i'r digwyddiad.
Llun: AFP / Wochit