Newyddion S4C

Annog perchnogion cychod i barchu bywyd gwyllt Ynys Môn

15/07/2021
Ynys Môn

Mae Cyngor Môn wedi annog perchnogion cychod a badau pwerus i barchu bywyd gwyllt ac i ddilyn Cod Morwrol yr awdurdod.

Daw hyn yn dilyn adroddiadau fod grŵp o jet-skis wedi mynd yn rhy agos at adar sy’n nythu ar greigiau Ynys Lawd yng Nghaergybi.

Dywed y cyngor fod y mater yn un “ofnadwy o anodd” i’w blismona.

Yn ôl y Cynghorydd Carwyn Jones, mae gan swyddogion yr hawl i dynnu trwyddedau oddi ar bobl os ydyn nhw’n aflonyddu rhywogaethau sydd wedi’u hamddiffyn.

Maen nhw’n cyfeirio at Gôd Morwrol Ynys Môn, sydd mewn lle er mwyn gwarchod mamaliaid fel dolffiniaid, llamidyddion a morloi.

Dywedodd yr Uwch Swyddog Morwrol, Iwan Huws: “Mae Cod Morwrol Ynys Môn yn gofyn i ddefnyddwyr jet-skis, RIB a chychod pwerus barchu bywyd gwyllt ac i gadw pellter oddi wrth ardaloedd sy’n sensitif i fywyd gwyllt. Mae nifer o ardaloedd nythu pwysig ar arfordir Ynys Môn ynghyd ag ardaloedd lle gwelir morloi, dolffiniaid a llamidyddion.

“Wrth gwrs, gwelwyd cynnydd mawr yn nifer y defnyddwyr jet ski wrth i bobl gymryd gwyliau yn agosach at adref ac mae’n bwysig bod defnyddwyr yn deall ac yn parchu’r môr a phwysigrwydd peidio ag aflonyddu’r bywyd gwyllt ar ein harfordiroedd.”

Ychwanegodd, “Rydym hefyd yn gweithredu cynllun cofrestru jets-skis a chychod pŵer ac mae sticeri adnabod mwy wedi eu cyflwyno eleni. Mae wardeniaid llithrfeydd yn bresennol mewn safleoedd lansio prysur o amgylch yr Ynys ac fe drafodir y Cod Morwrol â defnyddwyr wrth iddynt gofrestru.”

Dywedodd y Cynghorydd Carwyn Jones, “Rydym yn gwybod fod y mwyafrif o bobl sy’n defnyddio ein harfordir at ddibenion hamdden yn gwneud hynny mewn modd cyfrifol ond, yn anffodus, mae rhai nad ydynt yn gwneud hynny.

“Hoffwn atgoffa defnyddwyr y badau pŵer hyn bod gan ein Swyddogion Morwrol yr awdurdod i dynnu trwyddedau lansio a/neu angori oddi ar beiriannau a phobl nad ydynt yn cadw at reoliadau a rheolau Cod Morwrol Môn. Mae aflonyddu unrhyw rywogaethau sydd wedi eu hamddiffyn mewn modd bwriadol yn drosedd ac ni fydd yn cael ei oddef.” 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.