Baban tri mis oed wedi ei gludo i'r ysbyty ar ôl cael 'ataliad ar y galon'
19/10/2024
Mae baban tri mis oed wedi ei gludo i'r ysbyty ar ôl cael "ataliad ar y galon".
Cafodd Heddlu De Cymru eu galw i dafarn y Bryncoch Inn, ym Mryncoch yng Nghastell-nedd, toc wedi 14.30 ddydd Sadwrn yn dilyn adroddiad bod y baban wedi cael ataliad ar y galon.
Fe wnaeth parafeddygon gynnal CPR, cyn i'r baban gael ei gludo i'r ysbyty.
Mae Newyddion S4C wedi holi am ragor o fanylion.
Llun: Google Maps