Newyddion S4C

'Drôn wedi ei lansio' tuag at dŷ Prif Weinidog Israel

Ty Netanyahu

Mae drôn wedi cael ei lansio tuag at dŷ Prif Weinidog Israel ger Tel Aviv, meddai ei lefarydd.

Doedd Benjamin Netanyahu na’i wraig Sara ddim yn y lleoliad ar y pryd, ac ni chafodd neb eu hanafu.

Dywedodd Byddin Israel bod tri drôn wedi’u lansio o Libanus i Israel yn gynnar fore Sadwrn, gydag un yn taro adeilad yn Caesarea.

Nid yw Llywodraeth Israel wedi dweud a oedd yr adeilad yn rhan o gartref ei Phrif Weinidog.

Daw wrth i Israel barhau i ymosod ar dargedau yn Libanus sydd, meddai, yn gysylltiedig â’r grŵp Hezbollah.

Mae dwsinau o bobl wedi’u lladd mewn streiciau awyr gan Israel ar draws Libanus a Gaza dros y 24 awr ddiwethaf, yn ôl adroddiadau. 

Mae o leiaf 21 o bobol wedi’u lladd yn Gaza mewn streiciau fore Sadwrn, gyda newyddiadurwyr o’r Associated Press yn cyfri cyrff 10 o bobol yn Zawayda, ac 11 arall yng ngwersyll ffoaduriaid Maghazi.

Cafodd o leiaf dau berson eu lladd yn Libanus fore Sadwrn pan gafodd car ei dargedu gan streic i’r gogledd o Beirut, yn ôl gweinidogaeth iechyd Libanus. 

Daw wedi i 33 o bobol gael eu lladd yn Jabalia neithiwr, ar ôl i streic awyr gan Israel daro gwersyll ffoaduriaid, yn ôl asiantaeth newyddion WAFA Palestina.

Llun: Amir Levy / Getty Images

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.