
Storm Ashley: Rhybuddion melyn am wyntoedd cryfion a glaw trwm i rannau o Gymru
Mae disgwyl i Storm Ashley ddod â gwyntoedd cryfion i rannau o ogledd a gorllewin Cymru ddydd Sul.
Dywedodd y Swyddfa Dywydd y bydd y rhybudd melyn am wyntoedd mewn grym rhwng 03.00 fore Sul a 23.59 nos Sul.
Mae'r rhybudd ar gyfer siroedd Gwynedd, Ynys Môn, Conwy, Ceredigion a Sir Benfro.
Mae disgwyl gwyntoedd o hyd at 60 i 70mya mewn mannau arfordirol, meddai'r Swyddfa Dywydd.

Mae'r Swyddfa Dywydd hefyd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am law i dde Cymru tan 23.59 nos Sul.
Mae'r rhybudd ar gyfer siroedd Blaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerffili, Caerdydd, Sir Gâr, Merthyr Tudful, Sir Fynwy, Castell-nedd Port Talbot, Casnewydd, Sir Benfro, Powys, Rhondda Cynon Taf, Abertawe, Torfaen a Bro Morgannwg.
"Bydd glaw trwm, ynghyd â gwyntoedd cryfion, yn gwthio i'r dwyrain ar draws yr ardal rybuddio trwy fore Sul," meddai'r Swyddfa Dywydd.
"Bydd y rhan fwyaf o ardaloedd yn gweld 15-25 mm o law, ond gallai tiroedd uwch sy’n agored i’r gwyntoedd deheuol cryf weld 35-45 mm."
Gallai'r tywydd garw achosi trafferthion i yrwyr a theithwyr, ac mae perygl o doriadau mewn cyflenwadau trydan.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyhoeddi 14 o rybuddion llifogydd mewn rhannau o'r wlad.

Pryder am 'storm ffrwydrol'
Dywedodd y Swyddfa Dywydd ddydd Gwener eu bod nhw’n pryderu am storm “ffrwydrol”.
“Rydyn ni'n cadw llygad barcud ar ddatblygiadau yng Nghefnfor yr Iwerydd penwythnos yma,” meddai llefarydd.
“Mae disgwyl i ardal o wasgedd isel ddyfnhau'n ffrwydrol wrth iddo groesi'r jetlif.
“Bydd hyn yn dod â chyfnod o dywydd stormus i rannau o Ynysoedd Prydain ddydd Sul.”
Bydd rhybudd melyn am wyntoedd hefyd mewn grym ar gyfer yr Alban a Gogledd Iwerddon gyfan, yn ogystal â rhannau o ogledd-orllewin Lloegr.
Mae rhybudd oren wedi ei gyhoeddi ar gyfer rhannau o orllewin yr Alban.