Newyddion S4C

‘Ro’n i wedi fy mharlysu’: Disgwyl deuddydd am wely ysbyty ar ôl cael triniaeth mewn coridor

Cllr Chris Evans

Bu’n rhaid i gynghorydd sir o ogledd Cymru dreulio deuddydd yn adran brys Ysbyty Glan Clwyd gyda phoen cefn "annioddefol” cyn cael gwely mewn ward.

Dywedodd y Cynghorydd Chris Evans, o Ruallt yn Sir Ddinbych, bod y gwasanaeth iechyd mewn “cyflwr gwarthus” ar ôl ei brofiad o ddisgwyl cyhyd am wely.

"Dyma beth mae’r trigolion ar y ward yn dod ataf i amdano,” meddai’r aelod dros ardal Tremeirchion.

“Maen nhw’n dweud wrtha i eu bod yn disgwyl yn A&E am 10 awr neu 30 awr heb gael triniaeth.

“Roedd bob math o bethau yn digwydd yno. Do'n i ddim yn gallu cysgu. Ro'n i’n ofnus ei fod yn rhywbeth difrifol iawn. O’n i’n poeni y byswn i wedi fy mharlysu.”

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Gwasanaeth Ambiwlans Cymru wedi ymddiheuro i Mr Evans am ei brofiad.

Yn dioddef gyda disgiau cywasgedig yn ei gefn, roedd Mr Evans yn gorwedd ar lawr gegin ei gartref am chwe awr yn disgwyl am ambiwlans ar 27 Medi.

Roedd wedi dioddef poen tua gwaelod ei gefn am “o gwmpas chwe mis”, cyn iddo gwympo ar y llawr o flaen ei blant, Sam, wyth oed, ac Evie, 10 oed.

Ar ôl i'w wraig, Susan, alw am yr ambiwlans, roedd yn rhaid i gymydog ddod draw i geisio ei helpu i godi, “ond nid o'n i’n gallu symud”, meddai.

Image
Fe dreuliodd Mr Evans chwech awr ar lawr ei gegin yn disgwyl am ambiwlans
Fe dreuliodd Mr Evans chwe awr ar lawr ei gegin yn disgwyl am ambiwlans

“Roedd fy hanner isaf wedi ei weldio i’r llawr. Ro’n i wedi fy mharlysu. Dyna oedd y poen gwaethaf dwi erioed wedi ei gael.

"Roedd o fel rhywun yn rhoi procar tân poeth i mewn i fy nghoes ac fy nghefn – roedd y poen yn 11 allan o 10.”

'Ofnadwy o ofnus'

Ar ôl cyrraedd Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan, roedd yn rhaid disgwyl “tri i bedwar awr” yn yr ystafell aros, cyn mynd i’r adran brys.

Yno, fe dreuliodd dau ddiwrnod yn cael triniaeth mewn ystafell ochr ac yn y coridor.

“Ro’n i’n ofnadwy o ofnus. Ro’n i ffwrdd o fy nheulu. Ro’n i’n ypset bod fy mhlant wedi gweld fi mewn cymaint o boen. Roeddwn i’n galw allan am fy mam, a fu farw dwy flynedd yn ôl, oherwydd o’n i mewn cymaint o boen.

“Do'n i methu mynd i’r toiled. Roedd yn rhaid i mi bî-pî mewn potel yn y coridor, hefo sheet gwely o nghwmpas oherwydd doedd ‘na ddim sgriniau, ag oedd hynny’n brofiad degrading.”

Ar ôl dau ddiwrnod yno, cafodd ei symud i ward ble y gwnaeth dderbyn triniaeth am ddau ddiwrnod yn rhagor.

GIG 'wedi torri'

Mae’r cynghorydd yn dweud nawr ei fod eisiau “trwsio’r” Gwasanaeth Iechyd.

“Mae’r GIG wedi torri. Dydi o ddim yn ffit. Rydym yn gadael cymunedau Sir Ddinbych a gogledd Cymru i lawr. Mae’r staff efo gormodedd o waith, mae’n anodd iddyn nhw geisio symud pobl i welyau. Dydi o ddim yn cael ei reoli’n iawn. Dim eu bai nhw ydi o.”

Dywedodd fod angen “mwy o ysbytai”, gan fod gwelyau yn cael “eu blocio gan bobl a ddylai derbyn gofal yn y gymuned”. Dywedodd hefyd fod nyrsys yn cael eu gorweithio, a byth yn gadael ar amser, gyda morâl yn “isel iawn” yn yr ysbyty. Mae Mr Evans yn dweud iddo anfon llythyr at y Cynghorydd Elen Heaton, sef yr aelod cabinet yn ymwneud â’r Bwrdd Iechyd, yn amlinellu ei bryderon.

“Di'r ysbyty ddim yn iawn. Nid bai'r ambiwlansys, y nyrsys, y gofalwyr iechyd, y glanhawyr na’r porthorion yw hyn. Bai'r bobl sydd yn rheoli’r lle ydyw.

"Beth mae cabinet Cyngor Sir Ddinbych am ei wneud i wella pethau? Mae pobl yn marw. Gwelais dyn yn ei 90au yn marw yno. Roedd y nyrsys a gofalwyr iechyd yn hoff iawn ohono, ond bu farw yno, oed roedd yn rhaid iddyn nhw gario ymlaen. Maen nhw’n gwneud 110% o beth y dylen nhw ei wneud.

“Mae’n erchyll y ffordd mae trigolion gogledd Cymru yn cael eu trin, ond hefyd mae’n erchyll y ffordd y mae staff nyrsio yn cael eu trin.”

Mae Mr Evans nawr yn gwella ar ôl i sgan MRI ganfod nerf wedi ei drapio yn ei gefn.

Ymddiheuriadau

Dywedodd Liam Williams, cyfarwyddwr gweithredol ansawdd a nyrsio gyda Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, ei fod yn “ymddiheuro’n ddiffuant” i’r Cynghorydd Evans.

“Yn anffodus, mae’r cyfnod y bu’n rhaid i’r Cynghorydd Evans aros yn adlewyrchiad o’r pwysau parhaus sydd ar draws adrannau gofal iechyd brys. Nid dyma’r gwasanaeth yr ydym yn anelu at ei ddarparu i’n cleifion, ac rydym yn gweithio’n galed gyda chydweithwyr yn Llywodraeth Cymru a byrddau iechyd lleol i roi newid ystyrlon ar waith.”

Dywedodd Imran Devji, prif swyddog gweithredu dros dro Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: “Hoffwn ymddiheuro am brofiad y Cynghorydd Evans, fel yr wyf i’n ei wneud i bawb sy’n gorfod aros yn hir am driniaeth. Fel y mae wedi’i gydnabod, mae ein staff yn gweithio’n galed i ddarparu’r gofal gorau i’n cleifion, er gwaethaf y pwysau ar y system iechyd sy’n amlygu mewn amseroedd aros hir yn ein hadrannau achosion brys.

Ychwanegodd: “Mae hon yn her y mae pob bwrdd iechyd yn ei hwynebu, ac rydym yn canolbwyntio 100% ar hyn fel rhan o’n gwaith presennol a chynllunio ar gyfer y dyfodol.”

Mae Newyddion S4C wedi cysylltu â Chyngor Sir Ddinbych a Llywodraeth Cymru am ymateb.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn parhau i gael ei reoli dan fesurau arbennig.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.