Tad Liam Payne yn ymweld â'r gwesty lle bu farw ei fab
Mae tad Liam Payne, cyn-aelod o’r band One Direction, wedi ymweld â’r gwesty yn yr Ariannin lle bu farw ei fab.
Fe gafodd Geoff Payne ei weld yn darllen negeseuon oedd wedi eu gosod y tu allan i westy'r Casa Sur Hotel yn Buenos Aires ddydd Gwener.
Bu farw ei fab yn 31 oed ddydd Mercher ar ôl iddo syrthio o falconi ar drydydd llawr y gwesty yn ardal Palermo o'r brifddinas.
Fe gyrhaeddodd ei dad yr Ariannin ddydd Gwener i drefnu i gorff ei fab ddychwelyd i'r DU.
Dywedodd teulu Liam Payne mewn datganiad ddydd Iau eu bod ei farwolaeth wedi “torri ein calonnau”.
“Bydd Liam yn byw yn ein calonnau am byth, a byddwn yn ei gofio am ei enaid caredig, doniol a dewr,” medden nhw.
“Rydym yn cefnogi ein gilydd y gorau y gallwn fel teulu ac yn gofyn am breifatrwydd ar yr amser ofnadwy hwn.”
Yn dilyn ei farwolaeth, mae cantores Girls Aloud, Cheryl Tweedy, wedi codi pryderon am eu mab Bear, a gafodd ei eni yn 2017.
“Wrth i mi geisio gwneud synnwyr o'r digwyddiad dinistriol hwn, a gweithio trwy fy ngalar fy hun ar yr amser annisgrifiadwy o boenus hwn, hoffwn atgoffa pawb yn garedig ein bod wedi colli person dynol,” meddai mewn datganiad ar Instagram.
“Roedd Liam nid yn unig yn seren bop ac yn enwog, roedd yn fab, yn frawd, yn ewythr, yn ffrind annwyl ac yn dad i’n mab saith oed.
“Mab sydd nawr yn gorfod wynebu’r realiti o beidio byth â gweld ei dad eto.”
Daeth ei datganiad ar ôl i gariad Liam Payne, Kate Cassidy, ddweud ei bod “ar goll yn llwyr” yn dilyn ei farwolaeth.
“Nid oes unrhyw beth am yr ychydig ddyddiau diwethaf wedi teimlo’n real,” meddai mewn datganiad ar Instagram.
“Liam, fy angel, ti yw popeth. Rwyf am i ti wybod fy mod yn dy garu yn ddiamod. Byddaf yn parhau i dy garu am weddill fy oes. Rwy'n dy garu di Liam.”
Prif lun: Luciano Gonzalez / Anadolu / Getty Images