Newyddion S4C

Diffyg adnoddau i athrawon i 'ddelio â dylanwadau sy'n niweidiol i blant'

Newyddion S4C

Diffyg adnoddau i athrawon i 'ddelio â dylanwadau sy'n niweidiol i blant'

Dyw athrawon heb yr hyfforddiant na’r adnoddau i ddelio gyda dylanwadau ar wefannau cymdeithasol sy'n niweidiol i blant, yn benodol ar fechgyn yn eu harddegau yn ôl y Comisiynydd Plant.  

Mae'r sefyllfa yn un "frawychus" yn ôl un ysgol y de sydd wedi  sefydlu pwyllgor staff ar ôl sylwi bod rhai disgyblion yn defnyddio iaith fysogonystaidd, ar ôl gweld dylanwadwyr ar y we yn trafod merched mewn modd ddirmygus.

Yn ôl Llywodraeth Cymru mae diogewlch ar-lein yn rhan o’r cwriwclwm newydd, gan ychwanegu bod rhai adnoddau ar gael i athrawon, disgyblion a rhieni ar sut i ddelio gyda dylanwadau niweidiol fel casineb at fenywod ar-lein. 

“Odd e mor frawychus, jyst y ffaith odd addysgwyr yn meddwl am fenywod mewn ffordd negyddol doedden nhw ddim yn sylweddoli, mae nhw mor ifanc a dy’n nhw ddim yn sylweddoli yr iaith ma nhw’n ei defnyddio,”  meddai Jenna Rolls-Jones, athrawes sy'n rhan o'r pwyllgor. 

'Sut i herio'r iaith'

Yn ôl yr athrawon, un gair sydd wedi cael ei ddefnyddio gan rai yw 'Sigma', term dirmygus mae'n debyg sy’n cael awgrymu bod dynion yn well ‘na merched.

“Ni heb lot o gyngor o ran sut i herio’r iaith yma. Felly fe netho ni sefydlu’r pwyllgor ma i ddeall sut i ymateb iddo fe," meddai.

“Dyna pam ni di gorfod cymryd e ar ein hunan i chwilio am y gwyboaeth yma a throi at Google i addysgu ein hunan a dysgu sut i ddelio a fe a sut i addysgu dysgyblion.

“Ni dal i weld elfennau o mysogony yn dod mas gyda phlant 11 i 13, dysgwyr eithaf ifanc a bod nhw’n dechrau defnyddio'r iaith negyddol yna tuag at fenywod a ddim yn sylweddoli bod nhw’n neud e.”

'Dim digon o adnoddau'

Diffyg hyfforddiant ac arweiniad i ddelio gyda'r broblem hon yw neges Ysgol Llangynwyd. 

“O ran y gefnogaeth, o lefel llywodraeth a’r byd addysg does ‘na ddim digon o adnoddau yn cael eu rhannu gyda ysgolion i ni  fedru daclo problemau sy’n dod o wefannau cymdeithasol. 

"Bach iawn o gyfathrebu neu unrhyw fath o hyfforddiant sydd i athrawon," meddai Owain Tudur, Arweinydd Bugeiliol Ysgol Llangynwyd. 

“Yn sicr byse arweiniad pellach i gael dealltwriaeth gadarn o’r hyn sy’n digwydd ar-lein i’w groesawu fel bo ni’n gallu ei adlewyrchu yn yr ysgol.

“Ma gormod o bwyslais yn cael ei roi ar ysgolion i addysgu am faterion cymdeithasol, a bydde mwy o arwieniad i helpu newid meddylfryd ar blatfformau cymdeithasol yn helpu. Ond eto, ni’n neud ein rhan ni o ddydd i ddydd i daclo’r broblem yma."

Wrth siarad gyda rhai bechgyn ifanc yr ysgol, roedd gweld cynnwys dirmygus tuag ferched yn rhywbeth yr oedden nhw’n ei weld yn gyson gan gyfeirio at ddylanwadwyr fel Andrew Tate.  

Fe bwysleisodd y disgyblion bwysigrwydd trafod y pwnc yn yr ysgol a deall nad oedd ieithwedd o’r math yma yn dderbyniol mewn cymdeithas. 

Fe ddaw hyn wrth i bennaeth MI5 rybuddio bod pobl dan 18 sy’n cael eu denu a’u cyflyru gan weithgarwch terfysgaeth ar-lein wedi treblu yn y dair blynedd ddiwethaf. 

'Symud yn gyflym'

Adleisio’r galwadau am hyffroddiant mae swyddfa'r Comisiynydd Plant. 

“Mae angen i’r llywodraeth wneud yn siŵr fod gan athrawon ac ysgolion yr arfau sydd ei hangen i allu trafod y materion yma. Materion sydd yn aml iawn yn symud yn gyflym," meddai Lewis Lloyd, o Swyddfa'r Comisiynydd Plant. 

“Beth sydd angen i ni gael ar draws Cymru yw cysondeb; be ni ddim moen yw rhai plant mewn un rhan o Gymru yn cael profiad da, ac mewn ardal arall ddim yn cael profiad cystal." 

 Yn ôl un heddwas yn y gymuned mae’n broblem sy’n codi’n aml. 

Dywedodd PC Catherine Williams wrth Newyddion S4C: “Ni'n neud lot o waith ar hwnna bendant. Ma pawb yn gweld dylanwadau wrth fod ar social media. Ni’n gweld e’n aml. Trafod y pethe ma yn y dosbarthiadau bod plant yn teimlo bo nhw’n gallu son amdano fe. 

“Cwestiynau dy nhw ddim yn gyfforddus yn gofyn i athro, falle gewn nhw’r cyngor cywir gan yr Heddlu ynglŷn a’r canlyniadau os ydyn nhw yn mynd i ddilyn y llwybr anghywir”.

Yn ôl Llywodraeth Cymru mae'n "hollbwysig eu bod yn cadw pobl ifanc yn ddiogel ar-lein a'i fod yn rhan allweddol o'r cwricwlwm newydd."

Ychwanegodd llefarydd bod "adnoddau ar gael i athrawon, disgyblion a rhieni ar sut i ddelio a dylanwadau niweidiol fel mysogony ar-lein."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.