Newyddion S4C

Neuadd JMJ ym Mangor yn dathlu ei phen-blwydd yn 50 oed

jmj

Fe fydd dathliadau yn cael eu cynnal ddydd Sadwrn wrth i Neuadd John Morris Jones ym Mangor ddathlu ei phen-blwydd yn 50 oed. 

Bydd cyfle i glywed atgofion gan rai o gyn-lywyddion y Neuadd yn ogystal â chyn-Wardeiniaid. 

Mae tîm Archifau'r Brifysgol wedi gofyn i gyn-fyfyrwyr ddod â hen luniau gyda nhw er mwyn creu casgliad o luniau y neuadd Gymraeg swyddogol gyntaf yn y Coleg ar y Bryn.

Mae'r neuadd, a gafodd ei hagor yn swyddogol ym 1974, wedi symud dair gwaith yn ystod yr hanner canrif. 

Mae'r neuadd bellach wedi ei lleoli ar safle Ffriddoedd ym Mangor Uchaf, gyda lle i 134 ystafell wely.

Image
Arwydd tu allan i neuadd JMJ.png

Mae grŵp Angylion Stanli o ddiwedd y 70au wedi ail-ffurfio yn arbennig ar gyfer y digwyddiad ac fe fyddan nhw yn perfformio set acwstig ym Mangor. 

Mae Rhian Tomos yn Ddarlithydd Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid ym Mhrifysgol Bangor.
 
Dywedodd Rhian, oedd yn byw yn JMJ yn yr 80au: "Dw i’n edrych yn ôl ar fy nghyfnod yn JMJ hefo balchder. Ymuno â chymuned Gymraeg croesawgar, teuluol oedd un o’r profiadau hapusach am y tair blynedd y buom yno. 
 
"Dw i wedi gwneud ffrindiau am oes, dod i adnabod cymaint o gyd-Gymry, ac yr oedd bod o dan ofal y Warden, John Llew, a'i deulu fel cartref oddi cartref. 
 
"Roedd cael byw drwy gyfrwng y Gymraeg yn apelio’n fawr - dw i’n meddwl ei fod mor bwysig i fyfyrwyr gael y cyfle i fyw mewn cymuned Gymraeg pan fyddant yn gadael gartref i fynd i’r brifysgol os dyna yw eu dymuniad.”
Image
2 Myfyrwyr JMJ © Prifysgol Bangor.jpeg

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.