Newyddion S4C

Carchar am oes i ddyn 30 oed am lofruddiaeth 'farbaraidd' yn Nhonypandy

Ashley Davies

Mae dyn 30 oed wedi ei ddedfrydu i garchar am oes am lofruddio dyn arall yn Nhonypandy.

Cafodd Ashley Davies ei ddedfrydu i oes yn y carchar a bydd rhaid iddo dreulio o leiaf 26 mlynedd dan glo cyn y bydd yn gymwys i gael parôl.

Fe'i cafwyd yn euog o lofruddiaeth a bod â llafn yn ei feddiant mewn achos llys dros 10 diwrnod yn Llys y Goron Merthyr Tudful.

Roedd y gwasanaethau brys wedi dod o hyd i Connall Evans o Donypandy gydag anaf i'w frest ger Ysbyty Cwm Rhondda yn oriau mân y bore ar 1 Ionawr.

Bu farw ychydig wedi iddo gael ei ddarganfod.

'Byth yn gweld ei wên eto'

Dywedodd teulu Connall Evans bod ei farwolaeth wedi "rhwygo eu byd yn ddarnau."

"Mae colli Conall wedi bod yn gwbl ddinistriol - mae wedi rhwygo ein byd yn ddarnau ac wedi gadael twll nad oes modd ei lenwi yn ein calonnau.

"Mae colli brawd cariadus a mab hardd fel sydd gennym ni yn rhywbeth na allwch chi byth ei ddychmygu. Rydyn ni'n meddwl am Conall bob munud o bob dydd.

“Roedd pawb a oedd yn adnabod Conall yn gwybod ei fod yn berson hyfryd, caredig - roedd bob amser gyda chymaint o amser i'w deulu a'i ffrindiau."

Ychwanegodd y teulu: “Ei wên hyfryd a’i ysbryd di-ben-draw - pethau na fyddwn fyth yn eu gweld eto. Mae’r realiti ei fod wedi mynd am byth yn rhywbeth na allwn ddod i delerau ag ef.

"Mae ein hatgof ohono yn parhau yn ein calonnau ac yng nghalonnau pawb oedd yn ei garu, ond ni fydd byth yn cymryd lle poen ei absenoldeb."

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Dai Butt o Heddlu De Cymru bod gweithredoedd Ashley Davies yn rhai "barbaraidd."

“Cafodd bywyd Conall ei dorri’n drasig gan weithredoedd barbaraidd Ashley Davies, sydd bellach yn wynebu’r posibilrwydd o dreulio cryn dipyn o amser dan glo.

"Rwy’n gobeithio y bydd hyn yn rhoi rhywfaint o derfyn i deulu Conall – rydym yn parhau i’w cefnogi.

“Unwaith eto hoffwn ddiolch i’r gymuned leol am eu cefnogaeth drwy gydol yr ymchwiliad.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.