Cyngor Gwynedd i benderfynu ar gais cynllunio dadleuol ym Motwnnog
Fe fydd Cyngor Gwynedd yn penderfynu ar gais cynllunio dadleuol i adeiladu 18 o dai fforddiadwy ym Motwnnog ym Mhen Llŷn ddydd Llun.
Fe gafodd y cais ei wrthod ym mis Medi, gyda saith aelod o'r pwyllgor cynllunio o blaid ei wrthod, a chwe aelod o blaid ei ganiatáu.
Gan fod y penderfyniad yn groes i'r argymhelliad statudol, bydd yn dychwelyd o flaen aelodau am benderfyniad terfynol.
Roedd swyddogion cynllunio Cyngor Gwynedd wedi awgrymu wrth aelodau'r pwyllgor cynllunio y dylai'r cais gael ei ganiatáu. Roeddent yn dweud bod cyfrifoldeb statudol arnyn nhw i wneud hynny, gan fod yr egwyddor am yr angen wedi ei sefydlu'n flaenorol.
Roedd y safle wedi ei glustnodi ar gyfer 21 o dai, a gan fod y cais cynllunio ar gyfer llai na hynny ar y safle, nid oedd yn cael ei ystyried fel gor-ddatblygiad, meddai'r swyddogion.
Roedd trafod wedi bod yn y cyfarfod ym mis Medi am y diffiniad o gymuned leol - gan fod 'lleol' yn berthnasol i Wynedd gyfan wrth ystyried y galw am dai.
Roedd aelodau oedd yn gwrthwynebu'r cais yn dadlau y dylid diffinio "lleol" fel ardal oedd yn berthnasol i Fotwnnog yn unig.
Wrth siarad yn erbyn y datblygiad dywedodd y cynghorydd lleol Gareth Williams fod y cais wedi creu "drwgdeimlad a phoeni" ym Motwnnog, a bod teimladau cryf yn ei erbyn yn lleol.
Dywedodd bod 70 o dai o fewn Botwnnog, a byddai caniatáu adeiladu'r tai newydd yn gynnydd o 25% ym maint y pentref.
Roedd Cyngor Cymuned Botwnnog wedi gwrthwynebu'r cais i adeiladu'r datblygiad ger tir Cae Capel yn y pentref yn gryf. Roeddent yn dadlau nad oedd galw amdano'n lleol, ac y byddai'n effeithio ar "sefydlogrwydd y gymuned."