Bodolaeth cyhoeddwyr yng Nghymru yn 'y fantol wedi degawd o doriadau'
Mae bodolaeth cyhoeddwyr yng Nghymru yn 'y fantol wedi degawd o doriadau' yn ôl prif weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru.
Dywedodd Helgard Krause wrth bwyllgor diwylliant y Senedd fod toriadau yn y flwyddyn ddiwethaf wedi ei gwneud hi'n anodd i weithredu yn sgil blynyddoedd o gyllid sydd heb gynyddu.
Soniodd hefyd am bwysau cynhyrchu gyda chostau llyfrau wedi eu printio yn cynyddu yn sylweddol.
Mynegodd Ms Krause ei phryder am y gostyngiad yn nifer y llyfrau cyfrwng Cymraeg o 185 i 122 yn y ddegawd ddiwethaf, yn enwedig wrth ystyried targed y Llywodraeth o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
"Mae'n teimlo yn groes i'r graen fod y peth sy'n helpu gyda sgiliau ieithyddol, hynny yw - llyfrau, yn wynebu toriadau," meddai.
Rhybuddiodd hefyd fod "risg o wynebu colli cyhoeddwyr yn gyfan gwbl."
Yn ôl Ms Krause, mae'r Cyngor Llyfrau wedi gorfod wynebu toriadau dros y blynyddoedd drwy leihau nifer eu staff.
"Pan ddechreuais saith mlynedd yn ôl, roedd 50 o bobl yn gweithio o fewn y sefydliad. Bellach, rydym ni lawr i 36," meddai.
Mae Ms Krause hefyd yn pryderu am leisiau newydd a chyfleoedd i bobl ifanc yn cael eu colli.
"Rydym ni'n wynebu'r risg o ddychwelyd i'r hen drefn lle roedd cyhoeddi i ryw raddau yn alwedigaeth i'r hen fonheddwr, yn bennaf y rhai oedd yn gallu fforddio gweithio yn y diwydiant," meddai.
Dywedodd wrth y pwyllgor fod proffil y bobl sy'n gweithio yn y sector yn "parhau yn ddosbarth canol".
Ychwanegodd hefyd ei bod yn cefnogi yr egwyddor gan alwadau Cyngor Celfyddydau Cymru i sicrhau bod diwylliant a'r celfyddau yn gyfrifoldeb statudol.
Er ei bod yn cydnabod yr angen i amddiffyn gwasanaethau craidd fel iechyd ac addysg, dywedodd Ms Krause fod diwylliant yn gallu gwneud cyfraniad helaeth i'r ddau.