Newyddion S4C

‘Emosiynol’: Iona ac Andy yn perfformio am y tro olaf nos Sadwrn

Iona and Andy

Bydd y ddeuawd canu gwlad o Wynedd, Iona ac Andy, yn perfformio am y tro olaf cyn ymddeol nos Sadwrn mewn cyngerdd arbennig yng Nghaernarfon.

Wedi 45 mlynedd o berfformio yng Nghymru, Prydain ac ar draws y byd, bydd y pâr priod yn dod a’r cyfan i ben gyda'u perfformiad olaf erioed yn Galeri.

Ond beth yw’r rheswm dros ymddeol rŵan?

“Henaint, yn bennaf,” meddai Iona.

“Mae Andy yn 80 erbyn hyn. Mae teithio, nosweithia hwyr a chario gêr canu yn dweud ar rywun. Mi ydan ni dal i fedru canu, felly gwell rhoi gorau iddi tra ‘da ni yn gallu gwneud.

“Hefyd yn anffodus, does ganddon ni ddim band erbyn hyn. Bu i Geoff Betsworth, oedd yn chwarae gitâr ddur i ni, farw.

"A hefyd, mae Charlie Britton, oedd yn chwarae’r drymiau, wedi ein gadael. Felly mae’n anodd hebddynt.”

Teithio'r byd

O Tennessee i Batagonia, Tiwnisia a Seland Newydd, mae cynulleidfaoedd mewn pum cyfandir wedi eu diddanu gan Iona ac Andy a’r band dros y degawdau.

Bu i’r cyfan gychwyn yn 1979 – flwyddyn cyn i’r cerddorion briodi.

Wedi sawl blwyddyn o ganu mewn tafarndai, clybiau a gwyliau cerddorol ar draws gogledd Cymru, fe wnaeth y ddau droi’n broffesiynol yn 1985.

Perfformiodd y ddau gyda rhai o fawrion y byd cerddoriaeth wrth ymddangos sawl gwaith dros y blynyddoedd yng Ngŵyl Canu Gwlad Ryngwladol Wembley, gan gynnwys Tammy Wynette a Johnny Cash.

Yn 1987, fe enillodd Iona ac Andy y wobr ‘Deuawd Mwyaf Poblogaidd’ yng Ngwobrau Canu Gwlad Prydain, ac yn 2011, cafodd Iona ei hurddo i'r Hall of Fame gan gorff Canu Gwlad Prydain.

Image
Iona ac Andy
Iona ac Andy yn perfformio ar raglen Heno

Yn 1993, fe wnaeth y pâr sefydlu gŵyl Penwythnos o Ganu Gwlad yn Llandudno, gan ddenu sawl enw mawr i’r dref am 15 mlynedd yn olynol. Bu iddynt hefyd berfformio ddwywaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

Recordwyd saith albwm gyda Recordiau Sain, gan gynnwys un yn 2019 i ddathlu 40 mlynedd o berfformio gyda’i gilydd.

Wrth siarad ar raglen Heno, dywedodd Dafydd Iwan, un o sefydlwyr Recordiau Sain: “Mi glywson ni gyntaf am Iona ac Andy fel deuawd gwlad, oedd yn canu’n Saesneg yn bennaf, ac wedi gwneud tipyn o enw iddyn nhw’n hunain. 

"Ac mi ddallton ni eu bod nhw’n Gymry mi ddechreuon ni ei gyrfa recordio Cymraeg nhw.

“Dwi’n meddwl bod canu gwlad Cymraeg wedi dod i oed gydag Iona ac Andy, gydag un albwm ar ôl y llall.

“Ac wrth gwrs, drwy wyrth ddigidol, mi fydden nhw ar gael i genhedaethau’r dyfodol hefyd wrth gwrs.”

Uchafbwyntiau a heriau

O’r holl uchafbwyntiau, pa un sydd yn sefyll allan fwyaf?

“Os oedd rhaid dewis un foment,” meddai Iona “fyswn i’n dewis canu ar y Grand Ole Opry yn Nashville, sef rhaglen radio. 

Image
Iona ac Andy
Iona ac Andy yn canu gyda Gail Davies ar lwyfan y Grand Ole Opry yn Nashville

“Oeddan ni yno efo hanner cant o Gymry hefyd, ac mi ddoth a nhw i’r Ryman Auditorium, oedd o fel canu yng Nghapel Nantlle ers talwm, Tabernacl oedd o.

“Ac mi wnaeth Gail Davies wedi gwahodd ni i ganu ei chan hi, ‘Rhywun Fel Ti’ ac oedd hi’n ffantatsic gweld criw o Gymry a’r Ddraig Goch yn y gynulleidfa, a chael canu’n Gymraeg yn y Grand Ole Opry, y bobol gyntaf erioed i wneud.”

Yn ogystal â’r uchafbwyntiau, roedd hefyd heriau ar hyd y ffordd.

“Geshi ganser y fron ddwywaith,” meddai Iona, wrth siarad gyda rhaglen Heno.

“Dwi wedi dod drostyn nhw, diolch i rywun fel fy ngŵr annwyl fan hyn. Ond geshi bob cymorth gan ffrindiau a theulu, a drwy wrando ar ganeuon hefyd.”

Wrth ei hochr drwy’r cyfan roedd Andy, ac mae’n dweud ei fod wedi bod yn “hawdd” i gynnal y berthynas fel deuawd canu a phâr priod dros y blynyddoedd.

“Roedd o’n brofiad ffantastic gweithio efo Iona am mor hir. Hawdd, i ddeud y gwir.

“‘Da ni yn ffrindiau gorau,” meddai.

Wrth i’r ddeuawd baratoi am noson “emosiynol” yn Galeri, dywedodd Iona: “Heb y cefnogwyr, fysan ni heb di gallu gwneud dim.

“Mae’r diolch iddyn nhw. Diolch o waelod calon i bawb sydd di bod efo ni rownd y byd i gyd.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.