Newyddion S4C

Charles yn Awstralia ar daith dramor gyntaf ers diagnosis canser

18/10/2024
Charles a Camilla

Bydd y Brenin Charles a'r Frenhines Camilla yn dechrau taith o Awstralia ddydd Gwener, y tro cyntaf i'r Brenin gynnal taith estynedig dramor ers cael diagnosis o ganser.

Dyma fydd hefyd y daith gyntaf gan y Brenin Charles i Awstralia ers 2018 a'i gyntaf i'r wlad fel pennaeth y wladwriaeth.

Bydd y Brenin a'r Frenhines yn aros yno am bum niwrnod, gan ymweld â dinasoedd Canberra a Sydney.

Byddan nhw wedyn yn symud ymlaen i Samoa am bedwar diwrnod.

Dywedodd yr hanesydd brenhinol, Dr George Gross, bod y daith yn “arwyddocaol”.

“Er bod y Brenin Charles wedi teithio i Awstralia droeon, hwn fydd ei ymweliad cyntaf yno fel sofran,” meddai.

“Hwn hefyd fydd taith dramor swyddogol gyntaf y Brenin ers ei ddiagnosis o ganser, ei gyntaf i deyrnas y Gymanwlad ac, wrth ymweld â Samoa, bydd yn arwain Cyfarfod Penaethiaid Llywodraethau’r Gymanwlad cyntaf ei deyrnasiad.”

Ychwanegodd: “Mae’n nodedig hefyd ei fod yn ymweld ag Awstralia yn y flwyddyn ar ôl ei goroni, gan fod hyn yn adleisio taith 1954 gan ei ddiweddar fam, y Frenhines Elizabeth II yn dilyn ei choroni yn 1953.”

Gwrthwynebiad

Nid pawb yn Awstralia fydd yn croesawu'r Brenin a'r Frenhines.

Nod Prif Weinidog Awstralia, Anthony Albanese, yw cynnal refferendwm ar gael gwared ar y Brenin Charles fel pennaeth y wladwriaeth.

Er bod y cynllun hwnnw wedi'i ohirio, mae'r grŵp gwrth-frenhiniaeth Republic yn bwriadu cynnal protestiadau symbolaidd.

Mae prif swyddog gweithredol y grŵp, Graham Smith, wedi teithio o'r DU i Awstralia i arwain y digwyddiadau yn Canberra a Sydney.

Ar ôl gadael Awstralia bydd y Brenin a'r Frenhines yn mynd i Samoa i arwain Cyfarfod Penaethiaid Llywodraethau'r Gymanwlad.

Roedden nhw wedi bwriadu ymweld â Seland Newydd, ond roedd yn rhaid iddyn nhw gwtogi'r daith oherwydd iechyd y Brenin Charles.

Fe gafodd ddiagnosis o ganser eleni ac mae'n gohirio ei driniaeth tra bydd i ffwrdd o'r DU.

Llun: Max Mumby / Indigo / Getty Images

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.