Newyddion S4C

Pryder am storm ‘ffrwydrol’ sydd ar ei ffordd i Gymru dros y penwythnos

18/10/2024
Storm ffrwydrol

Mae’r Swyddfa Dywydd wedi dweud eu bod nhw’n pryderu am storm “ffrwydrol” a fydd yn taro Cymru dros y penwythnos.

Dywedodd llefarydd ar ran y gwasanaeth eu bod nhw’n cadw “llygad barcud” ar y storm, sydd wedi ei enwi'n Storm Ashley gan Met Éireann, a allai arwain at wyntoedd cryfion iawn yng ngorllewin a gogledd y DU.

Mae Swyddfa Dywydd y DU eisoes wedi cyhoeddi rhybudd melyn ar gyfer gwynt ar gyfer Conwy, Gwynedd ac Ynys Môn, ac arfordir Ceredigion a Sir Benfro, o 03.00 nes hanner nos ddydd Sul.

Mae rhybudd ambr wedi ei gyhoeddi ar gyfer rhannau o orllewin yr Alban.

“Rydyn ni'n cadw llygad barcud ar ddatblygiadau yng Nghefnfor yr Iwerydd penwythnos yma,” meddai llefarydd ar ran y Swyddfa Dywydd.

“Mae disgwyl i ardal o wasgedd isel ddyfnhau'n 'ffrwydrol' wrth iddo groesi'r jetlif a bydd hyn yn dod â chyfnod o dywydd stormus i rannau o Ynysoedd Prydain ddydd Sul.”

‘Ansicrwydd’

Dywedodd Tony Wisson, Dirprwy Brif Feteorolegydd y Swyddfa Dywydd, fod yna “gryn ansicrwydd” am gryfder y storm.

“Nid oes disgwyl i’r system gwasgedd isel hon ddatblygu tan ddydd Gwener ger arfordir Canada,” meddai.

“Felly ar hyn o bryd mae llawer o ansicrwydd o hyd ynghylch cryfder a llwybr y storm gan y bydd yn rhyngweithio â'r jetlif dros y penwythnos.”

Dywedodd bod gwyntoedd o hyd at 60-70mya yn bosib ar hyd yr arfordiroedd a bryniau agored.

"Mae'n debygol y bydd y rhybudd gwynt ddydd Sul yn cael ei ddiweddaru wrth i’n hyder gynyddu, ac mae rhagor o rybuddion yn debygol,” meddai.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.