Chwilod llwglyd yn achub bywyd afon yn Sir Benfro wedi wyth wythnos
Mae chwilen lwglyd a gafodd ei ryddhau gan wyddonwyr i helpu i adfer afon yn Sir Benfro wedi gwneud “cynnydd sylweddol” o fewn wyth wythnos.
Cafodd y widdon Azolla (Stenopelmus rufinasus) ei ryddhau ym mis Mehefin gyda’r nod o glirio rhedyn y dŵr sydd wedi tyfu ar Afon Cleddau a gwarchodfa natur gerllaw.
Mae rhedynen y dŵr sy’n gallu tyfu i drwch o 30cm yn un o’r rhywogaethau estron sy’n achosi’r mwyaf o broblemau yn y DU erbyn hyn.
Mae'n cau’r goleuni allan, gan ladd planhigion eraill a physgod drwy leihau’r ocsigen sydd ar gael.
Y nod wrth gyflwyno'r chwilen Azolla yw ei fod yn bwyta’r rhedynen gan ei reoli a dywedodd y gwyddonwyr eu bod nhw "wrth ein bodd" gyda'r cynnydd.
Dywedodd Duncan Dumbreck o Brosiect Pedair Afon LIFE eu bod nhw wedi “dod o hyd i sawl ardal yn y warchodfa lle'r oedd rhedynen y dŵr yn cymryd drosodd”.
“Fe wnaethom ryddhau gwiddon Azolla yn y warchodfa ac mae’r effaith wedi bod yn sylweddol ac rydym wrth ein bodd gyda’r newidiadau hyd yma.”
Cysylltodd y prosiect Pedair Afon LIFE â’r Ganolfan Amaethyddiaeth a Biowyddorau Rhyngwladol (CABI) gan fod y sefydliad wedi rheoli rhedyn y dŵr yn llwyddiannus mewn nifer o ardaloedd gan ddefnyddio gwiddon Azolla.
Ar ôl wyth wythnos yn unig, mae'r effaith wedi bod yn “sylweddol” gyda'r rhan fwyaf o redyn y dŵr “wedi cael ei fwyta”.