Newyddion S4C

Offeiriaid wedi ymuno â chyfarfod cyngor ‘drwy ddamwain’ wrth yrru i angladd

Malcolm Lane

Mae offeiriaid wedi dweud ei fod wedi ymuno â chyfarfod cyngor “drwy ddamwain” wrth yrru i angladd.

Dywedodd y Parchedig Malcolm Lane, sy’n gynghorydd Ceidwadol yn Sir Fynwy, ei fod wedi bwriadu gwrando ar y cyfarfod wrth yrru ond heb sylweddoli bod ei gamera ymlaen.

Gofynnodd cadeirydd y cyngor, y Cynghorydd Llafur Armand Watts, iddo lywio’r car i ochr y ffordd.

Ar ôl sylwi ei fod yn ymddangos ar y sgrin, gofynnodd Armand Watts: "Malcolm, mae gen i sylw yma, a ydych chi'n gyrru?"

Atebodd Lane: “Ie, dwi'n gyrru. Rydw i ar fy ffordd i gynnal angladd mewn gwirionedd ond rwy'n gwrando'n astud.”

Esboniodd y cynghorydd yn ddiweddarach ei fod wedi cysylltu ei ffôn gyda system sain y car ar gyfer y cyfarfod fore Mawrth ond heb sylweddoli fod ei gamera ymlaen.

Dywedodd: “Roeddwn i’n gweinyddu mewn angladd am 11 o’r gloch yn Amlosgfa Langston Vale ac fe benderfynais wrando ar weddill y cyfarfod yn y car.

“Drwy ddamwain roeddwn i wedi anghofio diffodd y sgrin.

“Cafodd fy ffôn ei osod yn fflat ynghanol y car. Roeddwn i tua hanner ffordd ar fy nhaith i Gasnewydd pan glywais y cadeirydd yn siarad, a’n gofyn a oeddwn yn gyrru a dyna pryd y sylweddolais nad oeddwn i wedi diffodd y sgrin. 

“Tynnais i mewn pan oedd yn gyfleus i unioni'r sefyllfa.

“Doeddwn i ddim wedi tynnu fy llygaid oddi ar y ffordd nes i mi dynnu i mewn.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.