Newyddion S4C

Galw am 'heddwch hirdymor' wedi marwolaeth Yahya Sinwar

Yahya Sinwar

Mae Syr Keir Starmer wedi galw am "heddwch hirdymor" yn y Dwyrain Canol wedi marwolaeth arweinydd Hamas, Yahya Sinwar.

Bydd y Prif Weinidog yn teithio i'r Almaen ddydd Gwener i drafod y sefyllfa yn y rhanbarth gyda Joe Biden, Olaf Scholz ac Emmanuel Macron.

Daw’r cyfarfod ddiwrnod ar ôl i Israel ddweud eu bod wedi lladd arweinydd Hamas, Yahya Sinwar.

Cafodd delweddau eu cyhoeddi ar y rhyngrwyd o'r dyn sydd wedi arwain Hamas ers 2017 yn gorwedd mewn rwbel yn Gaza gydag anaf difrifol i'w ben.

Y gred yw mai Sinwar oedd yn gyfrifol am arwain yr ymosodiadau ar 7 Hydref 2023 a ysgogodd y rhyfel.

Dywedodd Benjamin Netanyahu, prif weinidog Israel, nad oedd lladd pennaeth Hamas yn nodi diwedd ond “dechrau diwedd” y rhyfel yn Gaza sydd eisoes wedi parhau blwyddyn.

Bydd arweinwyr y DU, yr Unol Daleithiau, yr Almaen a Ffrainc yn trafod yr argyfwng dyngarol yn Gaza ddydd Gwener.

Mae’r Cenhedloedd Unedig wedi rhybuddio bod cyflenwadau sy'n handodol i bobl Gaza oroesi yn dod i ben, meddai Downing Street.

Image
Keir Starmer a Joe Biden. Llun Wochit
Keir Starmer a Joe Biden. Llun gan Kevin Dietsch / Wochit

Galw am 'heddwch hirdymor'

Dywedodd Syr Keir na fydd y DU “yn galaru ei farwolaeth” mewn datganiad a gafodd ei ryddhau cyn teithio i’r Almaen.

“Fel arweinydd y grŵp terfysgol Hamas, Yahya Sinwar oedd y meistr y tu ôl i’r diwrnod mwyaf marwol yn hanes Iddewig ers yr Holocost, wrth i 1,200 o bobl gael eu lladd yn Israel,” meddai’r Prif Weinidog.

"Heddiw mae fy meddyliau gyda theuluoedd y dioddefwyr hynny. Ni fydd y DU yn galaru ei farwolaeth.”

Ychwanegodd: “Mae’n hen bryd rhyddhau pob gwystl, sicrhau cadoediad ar unwaith a chynnydd mewn cymorth dyngarol fel y gallwn symud tuag at heddwch hirdymor, cynaliadwy yn y Dwyrain Canol.”

Dywedodd Arlywydd yr Unol Daleithiau, Joe Biden, fod marwolaeth Sinwar yn “ddiwrnod da i Israel, i’r Unol Daleithiau, ac i’r byd”.

Fodd bynnag, dywedodd Prif Weinidog Israel, Benjamin Netanyahu, y bydd y wlad yn parhau i ymladd nes bod holl wystlon Israel wedi cael eu rhyddhau, ac y bydd yn cadw rheolaeth ar Gaza yn ddigon hir i sicrhau nad yw Hamas yn ail-arfogi.

Yn ei araith am farwolaeth Sinwar, dywedodd Mr Netanyahu: “Nid yw ein rhyfel wedi dod i ben eto.”

Mae’r rhyfel yn Gaza bellach yn fwy na blwydd oed – gydag Israel wedi lladd mwy na 42,000 o Balesteiniaid mewn ymateb i ymosodiad Hamas y llynedd, yn ôl gweinidogaeth iechyd Gaza.

Lladdodd Hamas tua 1,200 o bobl a dal tua 250 o wystlon yn dilyn ei ymosodiad ar Israel ar 7 Hydref.

Prif lun: Yahya Sinwar, ddydd Iau (Llun: Mamhmud Hams / Wochit)

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.