Newyddion S4C

Liam Payne wedi ei ‘adael i lawr’ wrth i One Direction roi teyrnged iddo

One Direction

Mae un o gyn-feirniaid yr X Factor wedi dweud bod y diwydiant wedi methu yn eu dyletswydd i helpu’r seren bop Liam Payne wedi iddo farw yn 31 oed.

Daw sylwadau Sharon Osbourne wrth i gyn-aelodau’r band One Direction roi teyrnged i’r canwr 31 oed a fu farw ar ôl syrthio o falconi yn Buenos Aires, yr Ariannin.

Dywedodd Louis Tomlinson, Zayn Malik, Niall Horan a Harry Styles ddydd Iau eu bod nhw angen “cymryd amser er mwyn galaru colled ein brawd”.

Cyhoeddodd Sharon Osbourne, a oedd wedi ymddangos ar y gyfres X Factor yn 2010 lle y cafodd band One Direction ei ffurfio, neges ar Instagram.

“Liam, mae fy nghalon yn brifo. Rydyn ni i gyd wedi dy adael di i lawr,” meddai.

“Lle oedd y diwydiant hwn pan oedd ei angen arnat ti?

“Dim ond plentyn oeddet ti pan ddechreuaist ti gymryd rhan yn un o ddiwydiannau caletaf yn y byd. Pwy oedd yn brwydro yn dy gornel di?”

Gorffennodd Sharon Osbourne gan ddweud: “Gorffwys mewn hedd fy ffrind.”

Teyrnged One Direction

Dywedodd Louis Tomlinson, Zayn Malik, Niall Horan a Harry Styles eu bod yn “hollol dorcalonnus” yn dilyn eu colled. 

Mewn datganiad ar y cyd dywedodd y pedwar cerddor sy’n weddill fu’n rhan o One Direction: “Mewn amser, a pan fyddai pawb yn ei allu, fe fydd ‘na rhagor i’w ddweud. 

“Ond am nawr, hoffwn gymryd yr amser i alaru a phrosesu colled ein brawd, yr oeddem ni’n caru’n annwyl.

“Am nawr, mae ein meddyliau yn parhau gyda'i deulu, ei ffrindiau, a’r ffans oedd yn ei garu wrth ein hochr ni. 

“Mi fyddwn ni’n ei golli yn ofnadwy. 

“Rydym yn dy garu di Liam.”

‘Ddim yn deall’

Dywedodd un o gyd-gystadleuwyr One Direction ar yr X Factor, Rebecca Ferguson, ei bod wedi ceisio cysylltu â Liam Payne wythnos cyn ei farwolaeth.

Dywedodd ei bod wedi bod yn “poeni amdano ers tro”.

“Rydw i’n flin gyda’r bobl oedd yn elwa ohono, oedd wedi gadael iddo fynd allan o reolaeth,” meddai.

“Ro’n i’n gallu gweld hynny’n digwydd ac fe wnes i geisio cysylltu efo fo'r wythnos diwethaf.

“Dydw i ddim yn deall pam na wnaeth neb ymyrryd, pam nad oedd unrhyw un wedi camu i’r adwy - lle oedd y person diogelwch?”

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.