Newyddion S4C

Porthmadog: Dyn wedi ei hedfan i'r ysbyty gydag anafiadau 'difrifol'

Gwylwyr y Glannau Criccieth

Mae dyn wedi cael ei gludo i'r ysbyty o Borthmadog ar ôl dioddef anafiadau "difrifol" sydd heb eu hesbonio. meddai'r heddlu.

Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru bod swyddogion wedi cael eu galw i gynorthwyo staff y gwasanaeth ambiwlans mewn eiddo ym Mhorthmadog ar ddydd Calan.

Roedd hofrennydd Gwylwyr y Glannau Caernarfon wedi eu galw hefyd i gludo'r dyn i ysbyty yn Lerpwl.

Mewn datganiad dywedodd Heddlu'r Gogledd: “Mae’r heddlu’n parhau i fod yn bresennol mewn eiddo ym Mhorthmadog, lle mae dyn wedi dioddef anafiadau sydd heb eu hesbonio.

"Cafodd swyddogion oedd yn patrolio'r Stryd Fawr toc cyn 17.45 ddydd Mercher, 1 Ionawr eu galw i gynorthwyo staff ambiwlans oedd wedi cael eu galw i eiddo yn yr ardal. 

"Cafodd dyn ei hedfan i ysbyty Aintree gydag anafiadau difrifol lle mae'n parhau i dderbyn triniaeth."

Ychwanegodd Ditectif Arolygydd Trystan Davies bod ymchwiliad y llu yn parhau.

“Mae’r amgylchiadau a arweiniodd at anafiadau i’r dyn hwn yn aneglur ar hyn o bryd ac mae ein hymchwiliadau’n parhau," meddai.

"Fodd bynnag, rydym yn deall bod hwn yn ddigwyddiad unigol ac nid oes gennyf unrhyw bryderon ehangach.

“Rydym yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth mewn cysylltiad â’r digwyddiad i gysylltu â swyddogion ar 101, neu drwy’r wefan gan ddyfynnu'r cyfeirnod 25000003822.”

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.