Newyddion S4C

Pedair fferi y dydd o Gaergybi o ganol mis Ionawr meddai Stena Line

Pedair fferi y dydd o Gaergybi o ganol mis Ionawr meddai Stena Line

Mae cwmni Stena Line wedi cyhoeddi y bydd pedair fferi y dydd yn hwylio o Gaergybi o ganol mis Ionawr ymlaen.

Dyma fydd y llongau cyntaf i hwylio o Gaergybi i Ddulyn ers i storm Darragh daro ar benwythnos 6-7 Rhagfyr.  

Arweiniodd hynny at ran o strwythur terfynfa 3 yn dymchwel, yn ôl y cwmni.

“Ar hyn o bryd mae Stena Line yn bwriadu rhedeg pedwar taith dyddiol o Gaergybi am 04.00 o’r gloch, 10.00 o’r gloch, 16.00 a 22.15 rhwng 16 Ionawr a 28 Chwefror,” meddai llefarydd ar ran y cwmi.

“Y tu hwnt i'r dyddiad hwn, bydd yr amserlen yn cael ei diweddaru'n unol â hynny os bydd angen pan ddaw'r amserlen ar gyfer agor ail angorfa yng Nghaergybi yn gliriach.

“Rydym ar hyn o bryd yn y broses o gysylltu â chwsmeriaid yr effeithiwyd arnynt.”

Dywedodd y cwmni ddydd Llun eu bod nhw’n bwriadu ail-agor Terfynfa 5 erbyn 16 Ionawr.

“Mae hyn yn ddibynnol ar amodau rhesymol o safbwynt y tywydd, a byddwn yn darparu diweddariadau pellach wrth i faterion ddatblygu,” medden nhw.

Yn y cyfamser mae cymdeithas cludiant Iwerddon wedi dweud eu bod nhw’n bwriadu holi llywodraeth Gweriniaeth Iwerddon am becyn cymorth.

Dywedodd Ger Hyland, llywydd y Irish Road Haulage Association, ddydd Mercher y bydd y grŵp yn ceisio cyfarfod â'r Llywodraeth i drafod iawndal am golledion o ganlyniad i gau Caergybi.

“Rydym yn chwilio am iawndal oherwydd ni fyddai ein diwydiant yn gallu ysgwyddo cost hyn ac ni all llawer o’n cwsmeriaid ei ysgwyddo ychwaith,” meddai.

“Bydd angen iawndal i gefnogi’r diwydiant trafnidiaeth tan yr amser y bydd Caergybi yn gwbl weithredol eto.”
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.