‘Balchder’ criw o Gaernarfon ar ôl gweld arwydd Cymraeg mewn McDonalds yn Prague
Mae criw o Gaernarfon wedi dweud eu bod nhw’n “falch” o weld eu hiaith dramor ar ôl dod o hyd i arwydd Cymraeg mewn McDonalds yn ninas Prague.
Fe welodd Dion Jones arwydd oedd yn rhybuddio cwsmeriaid i fod yn wyliadwrus o’r llawr gwlyb yn McDonalds ym mhrifddinas Gweriniaeth Tsiec.
Penderfynodd y Cymro Cymraeg dynnu llun o’i ffrind, Tom Oliver yn gafael yn yr arwydd a’i gyhoeddi ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddweud: “Byd bach.”
Mae'r arwydd yn dweud: “Perygl llawr gwlyb. Glanhau ar waith."
Dywedodd Mr Jones, sydd ar ei wyliau gyda’i gyfaill a’u partneriaid, wrth Newyddion S4C eu bod nhw wedi “synnu” ond yn “teimlo balchder” o weld eu mamiaith tramor.
“[Roeddwn ni’n] chwilio am toilet o gwmpas Charles Bridge, a gweld bod McDonalds ar y stryd nesa," meddai.
“Welishi ‘glanhau’ yn gornel llygad wrth gerddad lawr y grisiau ag gorfod cael ‘double take’ cyn pwyntio yr arwydd allan i’r gweddill."
Dywedodd Mr Jones ei fod wedi synnu o hyd ar ôl gweld yr arwydd cannoedd o filltiroedd i ffwrdd o Gymru.
“Drwy’r prynhawn roedden ni'n trio meddwl pam a sut mae’r arwydd wedi cyrradd Prague ond i fyny rŵan rydym dal i fod wedi synnu," meddai.
“Roedd y gweithwyr yn flin hefo ni am symud a codi y arwydd cyn i ni egluro iddynt bod iaith ni oedd yr arwydd."