Galwad i sefydlu Comisiynydd Dŵr er mwyn mynd i’r afael â llifogydd
Galwad i sefydlu Comisiynydd Dŵr er mwyn mynd i’r afael â llifogydd
Mae adroddiad newydd wedi cynnig 17 o argymhellion ar gyfer gweinidogion Cymru, gyda’r nod o feithrin y gallu i wrthsefyll llifogydd erbyn 2050.
Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru sydd wedi cyhoeddi’r adroddiad sy’n tanlinellu pwysigrwydd cyfuno natur a’r gymuned wrth fynd i’r afael â phroblemau llifogydd cynyddol.
“Maen nhw’n argymhellion heriol ond ymarferol hefyd,” meddai Dr Eurgain Powell, sy’n un o Arweinwyr y Comisiwn.
“Ni’n awgrymu sefydlu rôl newydd; rôl Comisiynydd Dŵr. Rhywun sydd yn gallu arwain a dod a mudiadau at ei gilydd i edrych beth sydd angen gwneud o ran ymaddasu a bod yn fwy gwydn i lifogydd yn y dyfodol.”
Yn ôl Cyfoeth Naturiol Cymru, mae un o bob saith eiddo yng Nghymru mewn perygl o lifogydd.
Mae’r corff hefyd yn rhybuddio bod yr argyfwng hinsawdd am ddod â thywydd mwy eithafol ac felly bod ‘na fwy o bwysigrwydd nag erioed fod pobl yn gwybod ac yn deall y peryglon.
Yn Aberteifi, mae Maer y dref yn byw mewn ardal sydd yn dioddef llifogydd yn gymharol gyson wrth i Afon Teifi godi’n uchel.
“Chi’n gweld e’n llifo lan a bydd e’n dod i stepen cynta’r drws,” meddai'r Cynghorydd Olwen Davies.
Mae ‘na gynlluniau yn eu lle bellach er mwyn codi wal a fyddai’n lleihau’r perygl o lifogydd llanw i tua 90 o gartrefi a busnesau yn Aberteifi. Cynlluniau sy’n cael eu croesawu gan nifer yn yr ardal;
Dywedodd Olwen Davies: “Y gofid yw bod pethau ddim yn digwydd yn ddigon cyflym.
"Ni’n byw ar bwys yr afon a ni wedi gweld pobl yn dod a neud yr ymchwil, ond mae e ‘di cymryd blynydde o waith i ddod i’r rhan.
"Mae hwn yn mynd i warchod llawer o dai, a thai hanesyddol, a neud yn siwr fod pob un lleol yn saff.”
Wedi deunaw mis o waith, mae’r comisiwn hefyd yn pwysleisio bod angen ffyrdd naturiol er mwyn mynd i’r afael â phroblem llifogydd.
“Mae’r broblem yn mynd i gynyddu” Dyna rybudd plaen Dr Eurgain Powell.
"Mae yna fwriad i ddefnyddio elfennau naturiol yr amgylchedd er mwyn cadw dŵr mewn ardaloedd mwy diogel, ac ar ben hynny, mae yna fwriad i sicrhau fod gan gymunedau bwer er mwyn gweithredu.
“Mae’r bobl sy’n gweithio o fewn y sector yn delio gyda’r problemau sy’n codi heddi’, a dy’ nhw ddim yn cael cyfle i feddwl ymlaen i’r dyfodol felly mae’r argymhellion yn yr adroddiad yn gobeithio rhoi fframwaith iddyn nhw feddwl sut y’ ni’n gallu paratoi ar gyfer heriau’r dyfodol a chydweithio gyda’r holl asiantaethau.”
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Rydym yn croesawu adroddiad CSCC, a byddwn yn ystyried ei argymhellion yn ofalus ochr yn ochr ag adolygiadau eraill i gefnogi dyfodol Rheoli Perygl Llifogydd yng Nghymru.
“Rydym yn ymwybodol iawn o ba mor ddinistriol y gall effeithiau llifogydd fod, ar gartrefi, bywoliaeth a bywydau pobl, a dyna pam rydym eisoes wedi ymrwymo i ariannu amddiffyniad ychwanegol rhag llifogydd ar gyfer 45,000 o gartrefi ac wedi cynnal ein cyllid lefel uchaf erioed ar gyfer ein Rhaglen Llifogydd eleni, sef £75m.
“Mae angen gweithredu ar y cyd ledled Cymru, ond ni allwn wneud hynny ar ein pennau ein hunain. Rydym yn cydnabod anghenion a rôl ystod eang o randdeiliaid wrth reoli perygl llifogydd a gwydnwch hinsawdd.”