Newyddion S4C

Wncwl Bryn wedi 'ysbrydoli' AS cyntaf Cymru o dras ethnig leiafrifol yn San Steffan

Kanishka Narayan/Uncle Bryn

Mae AS cyntaf Cymru o dras ethnig leiafrifol yn San Steffan wedi dweud ei fod wedi ei ysbrydoli gan gymeriad ‘Uncle Bryn’ o gyfres Gavin and Stacey.

Wrth siarad yn Nhŷ’r Cyffredin ddydd Iau dywedodd Kanishka Narayan o’r blaid Lafur bod “calon a hiwmor” Wncwl Bryn, sy’n cael ei chwarae gan y digrifwr Rob Brydon, wedi “fy ysbrydoli ar lefel bersonol".

Disgrifiodd y ffordd y mae’r cymeriad yn canu caneuon James Blunt tra’n gyrru adref ar hyd yr M4, gan ddweud ei fod yn teimlo'r un fath wrth deithio o Lundain i “Barrybados.” 

Roedd yr AS dros Fro Morgannwg hefyd wedi diolch i’r ddirprwy siaradwr Judith Cummins am ei alw i siarad yn Gymraeg. “Diolch yn fawr,” meddai wrthi. 

Yn ei araith gyntaf yn y siambr dywedodd ei fod yn gobeithio sicrhau “ffyniant” ym Mro Morgannwg, gan gyfeirio at fagwraeth ef a’i frawd yno.

“Dyw arian ddim yn prynu'r mwyafrif o bethau mewn bywyd," meddai. “Dyw e ddim yn datrys y rhan fwyaf o’n problemau."

Ond, meddai, mae Bro Morgannwg yn ardal ddifreintiedig ac mae prinder arian yn yr ardal wedi bygwth urddas y gymuned yno.

Dywedodd ei fod yn benderfynol o fynd i’r afael â’r problemau rheiny.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.