
Oriel: Y lluniau buddugol yng nghystadleuaeth calendr Undeb Amaethwyr Cymru
Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi cyhoeddi’r lluniau buddugol fydd yn ymddangos yn ei galendr ar gyfer 2025.
Mae'r delweddau yn "cyfleu bywyd gwledig o bob cwr o Gymru", yn ôl yr undeb.
Emily Jones o bentref Penuwch yng Ngheredigion oedd prif enillydd y gystadleuaeth gyda’i llun o ddefaid Cheviot Tiroedd y Gogledd o dan flagur coed yn dod i’r brig.
Bydd ei llun yn ymddangos ar glawr y calendr ac mi fydd Ms Jones yn derbyn gwobr o £250 ar ddiwrnod cyntaf Ffair Aeaf Frenhinol Cymru ym mis Tachwedd.
Ymhlith y ffotograffwyr buddugol eraill y mae: Greta Hughes o Ben-Llŷn, Jamie Smart o Gwm Elan, Heledd Williams o Lanrwst, Annie Fairclough o Bowys, Chloe Bayliss o’r Fenni, Steven Evans Hughes o Groesoswallt yn Sir Amwythig, Marian Pyrs Owen o Gerrigydrudion, Beca Williams o Fôn, Richard Walliker o Sir Ddinbych, Erin Wynne Roberts o Gonwy ac Anne Callan o’r Hwlffordd.
Dyma ddetholiad o’u gwaith:











'Y gorau o Gymru'
Dywedodd Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru, Ian Rickman: “Mae’r gystadleuaeth wedi bod yn hynod boblogaidd eto eleni ac roeddwn wrth fy modd yn edrych trwy dros 100 o ddelweddau gwledig bendigedig. Roedd y safon yn uchel ac nid oedd yn dasg o ddewis deuddeg yn un rhwydd.
“Rwy’n meddwl ein bod ni wedi cyfleu’r gorau sydd gan Gymru wledig i’w chynnig, o asynnod a moch bach ciwt, buwch yr Ucheldir ar gyfer mis Mawrth, delwedd yn dangos manylder agos o wyneb ysgyfarnog ar ddechrau’r flwyddyn i fachlud pinc yng nghefn gwlad Cymru.
“Mae’r gystadleuaeth hon wedi amlygu bod ffermio yn bwysig i bob un ohonom mewn rhyw ffordd neu’i gilydd," meddai.
Bydd y calendrau ar gael o swyddfeydd sir leol ac o stondin Undeb Amaethwyr Cymru yn Ffair Aeaf Frenhinol Cymru.