Chwyddiant ar ei isaf ers dros dair blynedd
17/10/2024
Chwyddiant ar ei isaf ers dros dair blynedd
Os ydy'r hydref yn gafael a'r dydd yn byrhau hwyrach bod hi'n galondid nad yw prisiau'n codi mor gyflym.
Mae chwyddiant ar ei isaf ers dros dair blynedd a phrisiau'n newid fawr ddim yn siop y cigydd.
"Mae'r cig wedi dala pris yn iawn a heb godi dim ers sawl blwyddyn.
"Heblaw cig oen wnaeth godi llynedd.
"Ond, mae'n dechrau cwympo nawr."
I ba raddau dach chi'n gorfod bod yn ofalus wrth brisio?
"Ni ffaelu bod rhy ddrud neu fydd pobl ddim yn dod yma."
Ydy pobl yn dod?
"Ydyn, ni'n fishi bob penwythnos.
"'Sdim lot yma heddi achos dydd Mercher yw hi."
Mesur mae chwyddiant pa mor gyflym mae prisiau'n codi.
Os yw chwyddiant yn mynd i lawr, 'dy o ddim o reidrwydd yn golygu bod pethau'n mynd yn rhatach ond bod prisiau ddim yn codi mor gyflym ag y bydden nhw.
Erbyn hyn, mae'r raddfa'n 1.7%.
Os oedd rhywbeth yn costio £1 flwyddyn yn ol erbyn hyn, mae'n ddrytach o geiniog neu ddwy.
Fe ddaw'r Nadolig a bydd angen cwsmeriaid ar y siop yma.
Hwyrach bod y rheiny'n dal i deimlo effaith costau byw.
"Ni'n ffeindio bod pobl lleol dal yn cefnogi ni ond ni wedi gweld gwahaniaeth mewn faint maent yn prynu."
Dach chi'n gorfod bod yn ofalus wedyn o ran gosod eich prisiau chi?
"Odw, achos dw i ddim yn rhoi'r full price ar bethau fi'n prynu mewn."
Y targed ar gyfer chwyddiant ydy 2%, ond mae'n llai na hynny erbyn hyn.
Gall Banc Lloegr benderfynu dod a chyfraddau llog i lawr fyddai'n helpu pobl sy'n gorfod talu morgais.
Ar hyn y bryd, mae'r brif gyfradd yn 5% a daw'r cyhoeddiad nesaf ar Dachwedd y 7fed.
Byddai llogau is yn plesio nid yn unig y rheiny sy'n talu am dŷ, ond y rhai sy'n gobeithio prynu un fel y wraig ifanc yma.
"Mae'n rhaid i chi safio deposit mor fawr.
"Dim ots faint chi'n gweithio i safio.
"Mae costau popeth pan chi'n prynu tŷ yn gofyn bod arian 'da chi i gadw byw."
Petasai cyfraddau llog yn dod i lawr bysa hynny'n gwneud hi'n rhwyddach i chi wireddu'r freuddwyd o gael tŷ rhyw ddydd?
"Bydde fe'n helpu, yn enwedig i brynu tŷ fy hunan.
"Os ma' gyda chi bartner, mae'n rhwyddach i berson gyda dau deulu."
Mae 'di bod yn waith caled dros y blynyddoedd diwetha dod â chwyddiant i lawr.
Rŵan, mae gobaith y gall dalu'r morgais fod ychydig yn rhatach.