Ceredigion: Cludo dyn i'r ysbyty wedi gwrthdrawiad tri cherbyd
17/10/2024
Cafodd dyn ei gludo i’r ysbyty yn dilyn gwrthdrawiad rhwng tri cherbyd yng Ngheredigion ddydd Mawrth.
Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad am tua 17.00 rhwng Renault Kadjar gwyn, Land Rover Discovery lliw aur, a Seat Ibiza gwyn ar ffordd yr A482 ger Ciliau Aeron.
Cafodd y ffordd ei chau am gyfnod wedi’r gwrthdrawiad.
Mae Heddlu Dyfed-Powys bellach yn apelio ar lygad dystion neu unrhyw un oedd yn teithio ar hyd y ffordd sydd â delweddau dashcam i gysylltu gyda’r llu.