Newyddion S4C

Oedi ail agor ffordd allweddol rhwng Cwm Rhondda a Chwm Cynon

17/10/2024
Gwaith atgyweirio Mynydd Rhigos

Bydd oedi pellach wrth ail agor ffordd yn y Cymoedd sydd wedi bod ar gau am dri mis yn barod.

Roedd disgwyl i Ffordd Mynydd y Rhigos ar yr A4061 ail agor ddiwedd mis Hydref wedi iddi gael ei chau ar 22 Gorffennaf ar gyfer gwaith atgyweirio.

Mae’r ffordd yn cysylltu pobl sy’n byw yng Nghwm Rhondda a Chwm Cynon.

Ym mis Awst 2022, fe wnaeth tân gwair achosi difrod sylweddol ar ymyl y ffordd a'r creigiau gerllaw ac roedd pryder y byddai ochr y mynydd yn dirywio ymhellach heb waith cynnal a chadw.

Mae contractwyr wedi dweud ddydd Iau y bydd yn rhaid i’r ffordd aros ar gau am gyfnod pellach er mwyn sicrhau bod y gwaith atgyweirio wedi’i “gwblhau’n ddiogel".

Maen nhw wedi dweud eu bod yn disgwyl i’r ffordd aros ar gau nes ryw bryd ym mis Tachwedd.

'Siomi'

Mae llefarydd ar ran Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi dweud eu bod yn cydnabod y bydd trigolion lleol yn cael “eu siomi gan y newyddion yma” oherwydd y “tarfu” sydd wedi bod o ganlyniad i gau’r ffordd.

Oherwydd “cymhlethdod” y prosiect, dywedodd y cyngor eu bod nhw wedi bod yn “glir” o’r cychwyn cyntaf y bydd yn “anodd rhagweld  yr amserlen o ran cwblhau'r gwaith yn gywir”.

“Ar ddechrau'r gwaith, roedden ni wedi gobeithio cwblhau'r gwaith erbyn diwedd mis Hydref, ond roedd modd mynd y tu hwnt i hyn pe bai angen," meddai.

"Mae'r amserlen cwblhau newydd o ganlyniad i sawl ffactor, gan gynnwys y tywydd, amodau drilio cymhleth oherwydd natur y ddaeareg, maint y deunydd rhydd ar un rhan o wyneb y graig, a mynediad cyfyngedig i'r safle. 

“Byddwn ni'n rhannu rhagor o fanylion am y trefniadau agor unwaith y byddan nhw'n dod yn gliriach yn yr wythnosau i ddod."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.